Derbyniodd tîm caffael IGDC canmoliaeth uchel yng Ngwobrau Go Cymru yn y categori caffael cydweithredol, am eu gwaith ar Gytundeb Menter Microsoft Cymru Gyfan.
Mae Grŵp Gweithredol Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru wedi cytuno y bydd Rhaglenni Digidol Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) a Chaffael y System Gwybodeg Radioleg (RISP) yn trosglwyddo i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rhoi ffocws o’r newydd ym maes ymchwil ac arloesi, gan ddatblygu’r gwaith y mae eisoes yn ei wneud gyda sefydliadau partner ledled Cymru ym meysydd gwella, arloesi ac ymchwil yn iechyd a gofal cymdeithasol.
Cytunwyd ar gontract fframwaith ar gyfer e-ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau newydd a gwell mewn ysbytai.
Cyhoeddir partneriaeth arloesol rhwng y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Ddydd Mercher 26 Hydref, cynhelir sesiwn graffu ar y cyd yn y Senedd ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a thrawsnewid digidol ar draws GIG Cymru.
Mae Marilyn Bryan-Jones, a benodwyd yn Aelod Bwrdd Annibynnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddiweddar, wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon 2022 am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chynhwysiant.
Mae tîm caffael DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO Cymru, sy’n dathlu cyflawniadau caffael ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector Cymru.
Creodd y Ganolfan Ragoriaeth Microsoft GIG Cymru newydd fodel gweithredu brys ar gyfer GIG 111 Cymru, ar ôl i systemau TG un o’i gyflenwyr orfod cael eu cau, yn dilyn ymosodiad seiber ledled y DU.
Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei defnyddio i ehangu’r Rhaglen sgrinio coluddion i bobl 55, 56 a 57 oed.
Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd ddigidol ar y cyd gyda Cwmpas a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roedd yn archwilio sut y gall y sector cyhoeddus sicrhau cynhwysiant mewn arloesi digidol yn llawer gwell a hynny drwy weithio gyda a thrwy’r sector gwirfoddol.
Mae IGDC wedi arwyddo Siarter Cynhwysiant Digidol yn yr Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf a gynhaliwyd er mwyn dod â’r sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol ynghyd i gydweithio ar sut gall offer ddigidol gefnogi a galluogi cynhwysiant yng Nghymru.
Bydd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arwain gweminar #LlesiantiGymru ar bwnc trawsnewid digidol.
Mae DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.
Mae tîm Rheoli Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd rownd derfynol categori tîm y flwyddyn yng Ngwobrau Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol 2022.
Bydd Marilyn Bryan-Jones ac Alistair Klaas Neill GM yn derbyn swyddi fel Aelodau Annibynnol ar Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru o fis Medi 2022.
Gyda'r tristwch dyfnaf mae pob un ohonom yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn talu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II a bywyd a ymroddwyd i'n cenedl am 70 mlynedd.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2022 gan y BCS.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal diwrnod agored recriwtio rhithwir ddydd Gwener 16 Medi 2022 i recriwtio arweinwyr technegol a datblygwyr ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol GIG Cymru.
Bydd cleifion yng Nghymru sydd angen gofal deintyddol arbenigol yn parhau i olrhain eu hatgyfeiriadau drwy Wasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol GIG Cymru yn dilyn contract newydd rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a darparwr y system atgyfeirio, RMS Ltd.