Heddiw mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn anrhydeddu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, menter Sefydliad Iechyd y Byd sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a gweithredu mewn perthynas â diogelwch cleifion.
Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwneud gwaith uwchraddio a chynnal a chadw TG hanfodol rhwng 26 a 31 Awst, a allai effeithio ar y data sydd ar gael ar ddangosfwrdd data COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd modern, sydd wedi'u galluogi gan dechnoleg. Mae hyn yn cynnwys rheoli a dadansoddi data a gwybodaeth bwysig mewn seilwaith cadarn.
Am y tro cyntaf, mae'r system a ddefnyddir i brosesu atgyfeiriadau electronig gan feddygon teulu i ysbytai wedi’i chysylltu ag ysbytai dros y ffin yn Lloegr.
Bellach, mae meddygon yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ganlyniadau profion genetig digidol ar gyfer cleifion canser brys, yn dilyn diweddariad i Borth Clinigol Cymru yn ddiweddar.
Rydym yn helpu i roi mynediad i bobl Cymru at dystysgrifau ‘pasbort’ brechu, darllen mwy.
Bydd fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn cael gwell mynediad at gofnodion meddygol meddygon teulu cleifion fel rhan o’r gwasanaeth Dewis Fferyllfa, i’w helpu i ofalu am fwy o bobl â mân afiechydon.
Ydych chi'n ymwneud â rhagnodi neu roi meddyginiaethau? Ydych chi'n addysgu, hyfforddi, neu gefnogi eraill mewn e-adnoddau sy'n gysylltiedig â Gwybodaeth am Feddyginiaethau? Mae angen eich help chi ar yr e-Lyfrgell Iechyd.
Mae pobl yng Nghymru yn gallu dangos eu statws brechu ar-lein drwy Bàs COVID digidol y GIG nawr.
Mae mynediad cyflym at gofnodion iechyd digidol cleifion wedi bod yn hanfodol wrth ddarparu gofal sy’n achub bywydau, yn ôl parafeddygon yn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Ffordd ddigidol newydd o weithio wedi’i chyflwyno ar gyfer nyrsys a staff eraill ysbytai yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu pum lle ar y rhaglen ddysgu genedlaethol ar gyfer ymgeiswyr y GIG, sy'n arwain at Ddiploma Ôl-raddedig mewn Arweinyddiaeth Iechyd Digidol, a ddyfernir gan Imperial College London.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cael eu henwi’n enillwyr yng Ngwobrau Go Cymru am Ymateb Eithriadol i COVID-19 yn ogystal â Gwobr Ragoriaeth GO gyffredinol.
In Yn unol â'r penderfyniad i ddod yn awdurdod iechyd arbennig, rydym wedi uno timau Desg Wasanaeth Gofal Sylfaenol a Desg Wasanaeth Leol Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Yr enw ar y tîm newydd fydd Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Caiff Iechyd a Gofal Digidol Cymru ei lansio’n swyddogol heddiw.