Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rownd derfynol Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant

23 Medi 2022

Mae DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru. Gyda bron i 200 o geisiadau ar gyfer y gwobrau, dywedodd y beirniaid eu bod wedi cael tasg hynod o anodd yn dewis y cynigion gorau, o blith safon uchel iawn o ymgeiswyr.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd fis nesaf, ac mae DHCW yn rownd derfynol categori Gwobr Llesiant yn y Gweithle.

Dywedodd Claire Heirene, Rheolwr Dysgu a Datblygu DHCW, “Mae Iechyd a Llesiant y gweithlu wrth galon ein sefydliad. Rydym yn gweithio’n galed i greu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle gall unigolion ffynnu, ac mae cyrraedd rownd derfynol y gwobrau hyn yn adlewyrchiad o hynny”.

Mae gwybodaeth ac adnoddau ar reoli eich iechyd a llesiant ar gael ar wefan SharePoint Iechyd a Llesiant DHCW (staff DHCW yn unig).