Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' bellach ar gael mewn dros 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.
Mae pedwar porthiant data cenedlaethol newydd bellach yn fyw ar y Llwyfan Data a Dadansoddeg Cenedlaethol (NDAP), gan wella cyflymder, ansawdd ac effeithlonrwydd rhannu data ar draws GIG Cymru.
Mae arweinwyr ar draws disgyblaethau digidol ac iechyd meddwl wedi cyfarfod fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ddigidol.
Mae cleifion ar fin elwa ar drawsnewidiad digidol cyffrous ym Mhowys, wrth i gam mawr ymlaen gael ei gymryd tuag at ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithlon mewn ysbytai.
Yn IGDC, rydym yn falch o gydnabod ein hethos a’n trefniadau gweithio mewn partneriaeth cryf. Mae’r bartneriaeth hon wedi tyfu dros nifer o flynyddoedd o gydweithio.
Ym mis Mawrth, NEC Birmingham oedd y lleoliad ar gyfer Rewired 2025, digwyddiad cenedlaethol yn dangos y datblygiadau diweddaraf ym maes iechyd a gofal digidol.
Mae’r fenter ‘Sgiliau Maeth am Oes’, a ddarperir gan ddietegwyr y GIG, wedi’i gwella drwy fewnwelediadau a yrrir gan ddata, diolch i Raglen Ddysgu Dadansoddol yr Adnodd Data Cenedlaethol (ALP). Mae’r rhaglen bellach yn elwa ar ddangosfwrdd Power BI, sy’n galluogi gwell olrhain effaith a defnydd adnoddau, gyda thrawsnewid digidol hefyd yn cyflwyno dau ap newydd i gefnogi addysg bwyta’n iach. Drwy integreiddio mewnwelediadau data â hyfforddiant ymarferol, mae'r fenter yn gwella canlyniadau iechyd cymunedol ledled Cymru.
Mae System Imiwneiddio Cymru (WIS) wedi helpu bron i 27,000 o bobl yng Nghymru i gael y brechlyn RSV (feirws syncytiol anadlol). Mae’r system yn cefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i reoli’r broses frechu.
Mae IGDC a Gwasanaeth Gwaed Cymru wedi lansio dangosfwrdd anemia cyn llawdriniaeth i wella canlyniadau cleifion drwy nodi a thrin anemia cyn llawdriniaeth fawr. Mae'r offeryn arloesol hwn, sy'n fyw o 12 Mawrth, 2025, yn helpu timau gofal iechyd i olrhain data profion gwaed allweddol, gwneud y gorau o driniaeth, a gwella gofal llawfeddygol ledled Cymru.
Ddydd Llun, 10 Mawrth, cynhaliodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ein digwyddiad Menywod mewn Technoleg mewnol cyntaf yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. Mynchwyd y digwyddiad nod oedd amlygu a grymuso ein cydweithwyr benywaidd sy’n gweithio mewn rolau technegol ar draws IGDC.
Roedd dathliadau eleni i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng Nghymru yn cynnwys digwyddiad a gynhaliwyd gan Microsoft yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae gwasanaeth GitHub GIG Cymru, a lansiwyd gan yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), yn gwella cydweithrediad data ar draws GIG Cymru, gan alluogi dadansoddwyr iechyd a gofal i rannu cod, symleiddio llifoedd gwaith, a gwella effeithlonrwydd. Gyda GitHub CoPilot wedi'i bweru gan AI, rheolaeth fersiwn ddiogel, a dim cost rheoli canolog, mae'n meithrin arloesedd a rhannu data iechyd ffynhonnell agored. Mae byrddau iechyd yn cael hyfforddiant, cefnogaeth, ac offer dadansoddeg uwch i ysgogi gwell penderfyniadau. Ymunwch heddiw i hybu cydweithio ac effeithlonrwydd yn GIG Cymru.
Roedd Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Microsoft a Gamma i gynnal digwyddiad cenedlaethol ar gyfer cydweithwyr ar draws GIG Cymru yng Ngwesty’r Parkgate yng Nghaerdydd.
Mae miliwn o eitemau presgripsiwn bellach wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy wasanaeth digidol sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyflwyno system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) newydd i wella diogelwch cleifion a symleiddio llifoedd gwaith ysbytai. Fel rhan o Raglen Moddion Digidol GIG Cymru, mae ePMA yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau ac yn cefnogi strategaeth iechyd hirdymor BIPAB.
Mae gwasanaeth digidol newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru i helpu i wneud y broses o ddod o hyd i ddeintydd y GIG yn haws.
Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW), a leolir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (CAV), yw’r 58fed ysbyty a’r olaf i fynd yn fyw gyda Chofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).
Bellach gall gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd wneud cais yn ddigidol am brofion i gleifion sydd â symptomau cyflyrau llwybr gastro-berfeddol is gan wella dibynadwyedd, diogelwch a chyflymder y llwybr diagnosis ac unrhyw driniaeth bosib.
Gosododd digwyddiad Data Mawr cyntaf 2025, a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, gofnod presenoldeb newydd gyda 177 o gyfranogwyr. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR) a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, yn archwilio’r thema Data Mawr: Darlun Mwy. Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys arddangosiadau dadansoddeg wedi’u gyrru gan AI, trafodaethau ar droi data yn welliannau iechyd y gellir eu gweithredu, a mewnwelediadau gan gymuned Analyst X GIG Lloegr ar broffesiynoli rolau data. Tanlinellodd y digwyddiad rôl hanfodol data wrth drawsnewid gofal iechyd.
Mae system Datrysiad Gwybodaeth Cymru ar gyfer Rheoli Diabetes (WISDM) bellach yn fyw yn Ardal Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).