Neidio i'r prif gynnwy

05/05/22
Therapi Galwedigaethol Hywel Dda yn lleihau amser archwilio hyd at 8 mis trwy arloesedd digidol

Mae adran Therapi Galwedigaethol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi lleihau faint o amser mae’n ei gymryd i gwblhau archwiliad dogfennaeth glinigol flynyddol o 6 - 9 mis i ddim ond 1 mis diolch i lif gwaith digidol awtomataidd newydd. 

26/04/22
Digwyddiad Microsoft yn cynnig cymorth arloesi digidol i staff adrannau achosion brys

Gwahoddir staff adrannau achosion brys GIG Cymru i ymuno â Chanolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru ar gyfer ei phedwaredd digwyddiad hacathon ddydd Mercher 25 Mai 2022.

22/04/22
Dathlu Blwyddyn o system nyrsio ddigidol Cymru, Cofnod Gofal Nyrsio Cymru

Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) gael ei gyflwyno gyntaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe yng ngwanwyn 2021.

19/04/22
GIG Cymru yn lansio canolfan arloesi Microsoft bwrpasol ar gyfer staff

Mae Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 GIG Cymru wedi'i lansio i sbarduno arloesedd digidol creadigol ar draws GIG Cymru a rhoi cymorth i staff sy'n defnyddio meddalwedd Microsoft 365 (M365).

14/04/22
Offer Microsoft 365 yn trawsnewid ffyrdd o weithio i dros 100,000 o staff GIG Cymru

Mae'r defnydd o offer gan gynnwys Teams, OneDrive, SharePoint, Forms a Planner bellach yn eang, sy’n hybu cynhyrchiant ac yn cefnogi gweithlu GIG Cymru i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.

12/04/22
Podlediad: Gwybodegwyr Clinigol - Y Pontydd rhwng Clinigol a TG

Yn ein podlediad Gofal Iechyd Digidol Cymru diweddaraf, rydym yn dysgu sut mae gwybodegwyr clinigol yn dod â’r bydoedd – clinigol a TG - ynghyd.

08/04/22
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer gwerthusiad BMJ

Ydych chi'n gweithio mewn gofal acíwt? Mae angen eich mewnbwn ar e-lyfrgell GIG Cymru ar gyfer gwerthusiad o BMJ Best Practice Comorbidities.

01/04/22
Dathlu blwyddyn o Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Lansiwyd Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) flwyddyn yn ôl i heddiw, gan ddod yn sefydliad GIG Cymru ar gyfer y maes digidol, data a thechnoleg. 

 

31/03/22
System Imiwneiddio Cymru yn cyrraedd carreg filltir o 7 miliwn o frechiadau

Mae dros saith miliwn o frechiadau bellach wedi'u rhoi yng Nghymru gyda chymorth System Imiwneiddio Cymru (WIS).

 

29/03/22
Digwyddiadau Nyrsio Digidol yn arddangos cydweithio ar draws GIG Cymru

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu nyrsio digidol llwyddiannus yn adrodd hanes Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).

23/03/22
Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cipio'r drydedd wobr yng Ngwobrau SDI

Mae Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd 3ydd safle yng Ngwobrau SDI a gydnabyddir yn fyd-eang a gynhelir ar 22 Mawrth 2022 yn Birmingham.

 

18/03/22
Sesiynau ymgysylltu Ap GIG Cymru yn gwahodd cydweithio ar draws sefydliadau

Mae Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn cynnal sesiynau diweddaru misol i hysbysu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

17/03/22
Dathlu uwchraddio band eang mewn practis gwledig

Mae uwchraddio band eang Practisiau Meddygon Teulu yng Ngogledd Cymru, a reolir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, wedi cael ei ddathlu gydag ymweliad â phractis anghysbell gan Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

17/03/22
Nyrsio yn mynd yn ddigidol yng Ngogledd Cymru

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi lansio ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).  Mae’r system ddigidol yn trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion.

 

15/03/22
System Imiwneiddio Cymru yn ennill gwobr effaith ddigidol genedlaethol

Mae’r system ddigidol y tu ôl i’r gwaith o gyflwyno brechiadau COVID-19 yng Nghymru, sef System Imiwneiddio Cymru (WIS), wedi derbyn Gwobr Dewis y Bobl mewn seremoni yn Llundain am ei heffaith yn ystod y pandemig.

08/03/22
Blog: Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn IGDC

Yr wythnos hon, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Y Merched, digwyddiad a gydnabyddir yn fyd-eang i goffáu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd-gymdeithasol menywod ar draws y byd.

 

17/02/22
System Imiwneiddio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Impact Awards

Mae'r gwobrau'n ddathliad o dechnoleg er gwell y DU. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn un o dri sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn y categori Arloesedd yn ystod y Pandemig am y WIS, sy'n darparu'r gwaith o reoli, dosbarthu ac adrodd ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru.  

15/02/22
Blog: Cofnodion Iechyd Digidol, Profiad Clinigydd (Rhan 1)

Yn y cyntaf mewn cyfres o erthyglau sbotolau, mae Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Wrolegol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Chyfarwyddwr Meddygol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn rhannu ei brofiad personol o ofal iechyd digidol dros 25 mlynedd.

03/02/22
System fferylliaeth ysbytai newydd ar gael yn genedlaethol

Mae system fferylliaeth ysbytai ddigidol newydd bellach ar gael yn genedlaethol yn dilyn cyflawni ei gweithrediad dros 12 mis mewn 28 o safleoedd ar draws saith bwrdd iechyd ac un ymddiriedolaeth yng Nghymru.

02/02/22
Cymru yn dyfarnu Contractau System TG Meddyg Teulu newydd

Mae tri chyflenwr TG i Feddygon Teulu wedi ennill Cytundeb Fframwaith newydd i gyflenwi systemau a gwasanaethau TG ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghymru.