Neidio i'r prif gynnwy

Mae meddygon sy'n hedfan ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio Porth Clinigol Cymru i arbed amser a helpu i achub bywydau

5 Rhagfyr 2022

Pan fydd y meddygon sy'n hedfan ar fwrdd Ambiwlans Awyr Cymru yn cael eu galw am gymorth, mae'r criw yn barod i ddelio â sefyllfaoedd bywyd a marwolaeth.  Maent yn mynd â'u sgiliau yn syth i'r lleoliad, gan wneud penderfyniadau cyflym a phwysig sy'n pennu'r gofal a'r driniaeth sydd eu hangen mewn argyfwng.

Hyd at 2017, roedd meddygon yr ambiwlans awyr yn dibynnu ar bapur, radio a ffonau i gasglu gwybodaeth am iechyd neu hanes meddygol y claf. Pan fydd pob eiliad yn cyfrif, gallai'r broses hon gymryd llawer o amser ac oedi penderfyniadau hollbwysig ynghylch gofal y claf.

Ond mae technoleg newydd ar ffurf cofnodion cleifion electronig bellach yn cyflymu'r broses, gan wneud gofal yn fwy diogel ac yn helpu i achub bywydau.

 

Mae pob eiliad yn cyfrif

Diolch i waith ar y cyd rhwng Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru, Gwasanaethau Digidol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru mae gan yr ambiwlans awyr fynediad ar unwaith i gofnod meddygol unigol claf a hanes meddygol trwy Borth Clinigol Cymru, gan alluogi penderfyniadau cyflymach, mwy gwybodus.

Siaradodd Mark Craven, Clinigydd Hwb Gofal Critigol ar gyfer y Gwasanaeth Ambiwlans Awyr am effaith Porth Clinigol Cymru.

“Gall rhai lleoliadau damweiniau fod yn achosion eithaf cymhleth ac mae angen i chi gasglu gwybodaeth yn gyflym. I mi, neu’r ymarferydd gofal critigol, mae Porth Clinigol Cymru yn gymorth i wneud penderfyniadau fel y gallwn gael hanes cefndir llawn ac adolygiad o feddyginiaeth claf cyn dechrau gweithredu.

“Mae Porth Clinigol Cymru wedi bod yn rhan annatod o’r hyn y mae’r Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) yn ei wneud. Gall fod yn anodd iawn darparu'r gofal gorau posibl pan nad ydych yn gwybod dim am y claf. Fodd bynnag, mae’r porth yn darparu dull holistaidd o drin cleifion ac yn rhoi gwybod i EMRTS am y ffordd yr ydym yn gweithio ac yn ymarfer.” 

Gellir cyrchu'r system yn uniongyrchol o'r lleoliad trwy ddyfeisiau symudol fel iPads, yn yr ystafell reoli, neu yn ôl yn y prif safle. 

Mae meddygon ambiwlans awyr yn dweud bod Porth Clinigol Cymru yn hawdd ei ddefnyddio a’i fod hefyd yn rhoi ffordd hygyrch i ymgymryd â thriniaeth dilynol claf, fel rhan o’u gwasanaeth ôl-ofal. Mae'n galluogi'r tîm i roi diweddariadau amserol i berthnasau cleifion. Mae hyn yn seiliedig ar adborth cyflym ar ymyriadau a rhyngweithiadau yn y lleoliad. Mae'r wybodaeth a'r adborth hanfodol hwn hefyd yn cael eu defnyddio i lywio datblygiad y gwasanaeth, ac o ran llywodraethu clinigol, sut mae'r gwasanaeth yn cael ei wella drwy adolygiadau o farwolaethau, ymchwiliadau i ddigwyddiadau ac archwiliadau clinigol.

Eglurodd Mark: “Mae hyn yn wirioneddol bwysig gan ei fod yn sicrhau arfer gorau a hefyd yn ein galluogi i roi adborth byw ar gynnydd claf.” 

Man gwaith digidol yw Porth Clinigol Cymru, sy’n ei gwneud hi’n hawdd cael gafael ar wybodaeth am bob claf pan fo’i hangen.