Uned Mân Anafiadau Castell-nedd Port Talbot yw'r cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio system genedlaethol newydd ar gyfer Adrannau Achosion Brys (A&E).
Mae tîm Desg Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cyrraedd rhestr fer y categori Desg Wasanaeth Gorau yng Ngwobrau Sefydliad y Ddesg Wasanaeth (SDI) eleni.
Mae’r rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru wedi dechrau gwahodd pobl 58 a 59 oed am y tro cyntaf i gael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn.
Mae diweddariad i Borth Clinigol Cymru (WCP) yn golygu bod gweithwyr iechyd proffesiynol ledled Cymru bellach yn gallu cael mynediad at gopïau digidol o ganlyniadau profion endosgopi a broncosgopi eu cleifion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Sefydlwyd y rhaglen Gwasanaethau Digidol i Gleifion a'r Cyhoedd (DSPP) gan Lywodraeth Cymru i helpu i gydlynu cyflwyno datrysiadau digidol a chymwysiadau iechyd a gofal yn gyflym i bobl Cymru.
Mae’r tîm y tu ôl i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi ennill ‘Prosiect TG Gorau’r Flwyddyn y Sector Gofal Iechyd’ yng Ngwobrau mawreddog Diwydiant TG y DU Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS).
Mae ffigwr blaenllaw o raglen frechu COVID-19 Cymru wedi disgrifio sut mae mynediad at y gwasanaethau digidol a ddarperir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi bod yn allweddol i’w roi ar waith yn llwyddiannus.
Bydd y Gwasanaeth System Rheoli Gwybodaeth Labordy (LIMS) newydd yn rheoli dros 35 miliwn o brofion a brosesir gan yr 21 o labordai patholeg GIG Cymru bob blwyddyn
Enillodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ‘y wobr Prif Swyddog Gweithredol Digidol y Flwyddyn’ yn y Gwobrau ‘Digital Health’ 2021.
Mae Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi clywed sut mae graddfa a chyflymder gwaith datblygu hyblyg ar gyfer System Imiwneiddio Cymru yn “drawsnewidiad go iawn” ac yn “hanfodol i lwyddiant y rhaglen [brechu torfol Cymru]” yn ei gyfarfod bwrdd ym mis Medi.
Llywodraeth Cymru wedi arbed cannoedd o filiynau o bunnoedd trwy ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau'r sector cyhoeddus yn ystod y pandemig.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi i Simon Jones gael ei benodi gan Lywodraeth Cymru yn Gadeirydd ein bwrdd.
Ymunwch â ni ar gyfer diwrnod recriwtio agored rhithwir ar 7 Hydref.
Llongyfarchiadau i'n tîm caffael am ennill ‘Gwobr Ymateb Rhagorol i COVID-19 - Sefydliadau’r GIG a Gofal Iechyd’ yng Ngwobrau Cyfleoedd y Llywodraeth Cenedlaethol y DU 2021.
Heddiw mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn anrhydeddu Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, menter Sefydliad Iechyd y Byd sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth, ymgysylltiad a gweithredu mewn perthynas â diogelwch cleifion.
Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gwneud gwaith uwchraddio a chynnal a chadw TG hanfodol rhwng 26 a 31 Awst, a allai effeithio ar y data sydd ar gael ar ddangosfwrdd data COVID-19 Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau ledled GIG Cymru i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd modern, sydd wedi'u galluogi gan dechnoleg. Mae hyn yn cynnwys rheoli a dadansoddi data a gwybodaeth bwysig mewn seilwaith cadarn.
Am y tro cyntaf, mae'r system a ddefnyddir i brosesu atgyfeiriadau electronig gan feddygon teulu i ysbytai wedi’i chysylltu ag ysbytai dros y ffin yn Lloegr.
Bellach, mae meddygon yng Nghymru yn gallu cael mynediad at ganlyniadau profion genetig digidol ar gyfer cleifion canser brys, yn dilyn diweddariad i Borth Clinigol Cymru yn ddiweddar.
Rydym yn helpu i roi mynediad i bobl Cymru at dystysgrifau ‘pasbort’ brechu, darllen mwy.