Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) bellach ar gael yn llawn ym mhob ward cleifion mewnol oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae myfyrwyr nyrsio mewn prifysgolion ledled Cymru yn cael y cyfle i gael profiad ymarferol o system nyrsio ddigidol GIG Cymru cyn iddynt fynd ar eu lleoliadau gwaith cyntaf.
Mae system ddigidol arloesol ar gyfer nodiadau cleifion ar fin symud i'w thrydydd cam wrth i nodiadau cleifion mewnol plant gael eu cynnwys yn y system.
Cyhoeddwyd bod Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a’r tîm y tu ôl i gyfres o ddangosfyrddau data GIG Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Digidol HSJ eleni. Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth mewn digideiddio, cysylltu a thrawsnewid iechyd a gofal.
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ar ôl casglu mwy na 3.9 miliwn o gofnodion nyrsio cleifion mewnol yn ystod y 22 mis diwethaf.
Mae effaith Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) newydd ar gyfer cleifion mewnol sy'n oedolion wedi'i gydnabod yng Ngwobrau MediWales 2022, gan ennill gwobr iechyd a gofal y beirniaid.
Mae ychydig dros flwyddyn wedi mynd heibio ers i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) gael ei gyflwyno gyntaf ym Mwrdd Iechyd Bae Abertawe yng ngwanwyn 2021.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cynnal pedwar digwyddiad ymgysylltu nyrsio digidol llwyddiannus yn adrodd hanes Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR).
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi lansio ym mwrdd iechyd mwyaf Cymru, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Mae’r system ddigidol yn trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chael mynediad at wybodaeth am gleifion.
Mae’r tîm y tu ôl i Gofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi ennill ‘Prosiect TG Gorau’r Flwyddyn y Sector Gofal Iechyd’ yng Ngwobrau mawreddog Diwydiant TG y DU Cymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS).