Neidio i'r prif gynnwy

Mae cofnodion nyrsio yn cael eu digideiddio ac yn cipio gwobr yng ngwobrau MediWales

9 Rhagfyr 2022

Mae nyrsys ledled Cymru yn gweld gwir effaith digideiddio wrth iddynt fabwysiadu technoleg arloesol i gofnodi gofal. 

Mae ffurflenni papur wedi’u disodli gan ddogfennau safonol sy’n cael eu defnyddio ar ddyfeisiau digidol megis cyfrifiaduron llechen sy’n rhyddhau amser i staff nyrsio ac yn gwella diogelwch a phrofiad cleifion. 

Bellach, mae effaith Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) newydd ar gyfer cleifion mewnol sy'n oedolion wedi'i gydnabod yng Ngwobrau MediWales 2022, gan ennill gwobr iechyd a gofal y beirniaid. 

Dywedodd y beirniaid, “mae’r WNCR yn trawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn storio, rhannu a chyrchu gwybodaeth am gleifion. Mae hwn yn brosiect gwych ac mae’r gwahaniaeth cadarnhaol y mae’n ei wneud i nyrsio yng Nghymru wedi gwneud argraff fawr arnom.” 

Fis diwethaf, cyflawnodd WNCR garreg filltir fawr wrth gael ei osod yn Ysbyty Athrofaol y Grange yng Nghasnewydd sy'n golygu bod y gwasanaethau bellach ar gael ac yn cael eu gweithredu ym mhob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru.  

Wedi’i datblygu gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ac wrth weithio ar y cyd â gweithwyr nyrsio proffesiynol, mae’r system wedi’i chydnabod fel cam enfawr ymlaen yn rhan o’r cofnod digidol sengl i gleifion. 

Mae’r nyrsys cyntaf i roi cynnig ar y ffyrdd newydd o weithio wedi siarad am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae hyn wedi'i wneud i'w gwaith mewn ymarfer clinigol. 

Dywedodd Christine Evans, Rheolwr Ward yn Ysbyty Castell Nedd Port Talbot, “Mae’n ffordd wych ymlaen ar gyfer nyrsio – cofnod cryno a chlir yw e, lle nad yw’n bosibl gwneud camgymeriadau. Mae’n tynnu sylw at yr holl asesiadau risg sydd eu hangen arnom ac mae modd i bawb ei ddefnyddio –  ffisiotherapyddion y tîm amlddisgyblaethol (MDT), therapyddion galwedigaethol, lleferydd ac iaith. Gall pawb sydd ei angen gyrchu’r WNCR yn ddiogel, ar unrhyw adeg ac mae wedi dod yn ddarn gwerthfawr iawn o offer ar gyfer nyrsio”  

Yn flaenorol, bu'n rhaid storio nodiadau papur a'u dosbarthu i'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol – ond erbyn hyn mae'r wybodaeth ar gael ar flaenau bysedd y clinigwr. 

Mae Helen Moody, Nyrs staff yn Ysbyty Cymuned Glannau Dyfrdwy, Sir y Fflint, o’r farn bod y WNCR yn system gyfleus a hawdd ei defnyddio,  

“Gall gwahanol aelodau o staff fod yn edrych ar gofnod yr un claf, a mewnbynnu data ar yr un pryd. Gallwch rannu derbyniadau, a gwneud gwahanol rannau o'r derbyniadau gyda nyrs arall. Mae’n llawer cyflymach na’r broses bapur, ac mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch yno.”