Neidio i'r prif gynnwy
09/07/26
Apotec yw'r cyflenwr system fferylliaeth diweddaraf i gefnogi'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Apotec yw'r wythfed cyflenwr sydd wedi'i gymeradwyo i gyflwyno ei dechnoleg Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) mewn fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru.

29/06/26
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cychwyn taith meddyginiaethau digidol yn Ysbyty Ystrad Fawr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi symud o siartiau papur i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau electronig yn ei safle peilot cyntaf yn Ysbyty Ystrad Fawr.

25/06/26
Cleifion ifanc i elwa o ragnodi electronig yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyrraedd carreg filltir bwysig gyda gweithredu rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau electronig yn llwyddiannus ar draws Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

28/05/26
Un cofnod, gofal gwell: Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwella diogelwch meddyginiaethau i gleifion

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yw'r bwrdd iechyd cyntaf yng Nghymru i ddechrau darllen meddyginiaethau wrth dderbyn cleifion i'r ysbyty ac ysgrifennu meddyginiaethau wrth eu rhyddhau gyda'r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir (SMR), gan nodi cam arwyddocaol wrth helpu i greu cofnod meddyginiaethau cyfunol i gleifion.

25/02/26
Pymtheg miliwn o eitemau yng Nghymru yn cael eu dosbarthu drwy'r Gwasanaeth Presgripsiwn Electronig

Mae dros bymtheg miliwn o eitemau presgripsiwn wedi cael eu dosbarthu yng Nghymru drwy'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS), gan wneud y broses bresgripsiynu'n haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd.

27/01/26
Ysbyty Maelor Wrecsam yn byw gyda system ePMA ac yn rhannu meddyginiaethau rhyddhau â'r Cofnod Meddyginiaethau a Rennir

Ysbyty Maelor Wrecsam yw'r safle ysbyty acíwt cyntaf yng Nghymru bellach i gael pob ward cleifion mewnol yn fyw gyda'r system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Electronig (ePMA) gan y cyflenwr, Better.

24/11/25
Rhagnodi digidol i fod o fudd i gleifion canser a rhoddwyr gwaed Felindre

Mae cleifion a rhoddwyr sy'n defnyddio gwasanaethau canser a gwaed arbenigol yng Nghymru ar fin elwa o wasanaeth rhagnodi symlach, gyda gwasanaeth digidol newydd yn gwneud pethau'n haws ac yn fwy diogel.

06/11/25
Mae mwy na 100 o feddygfeydd teulu yng Nghymru bellach yn defnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig

Mae mwy na 100 o feddygfeydd teulu yng Nghymru bellach yn gallu defnyddio gwasanaeth digidol sy'n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion a staff gofal iechyd.  

24/09/25
Penodwyd yr arweinydd clinigol Dr Geraldine McCaffrey yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru

Mae Dr Geraldine Mccaffrey wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr newydd y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol (RPS) yng Nghymru. 

18/08/25
Symud o siartiau papur i system ddigidol i drawsnewid gofal yn ysbyty mwyaf Cymru

Mae cleifion yn elwa o system ragnodi ddigidol newydd wrth i siartiau papur wrth ochr y gwely gael eu disodli yn yr ysbyty mwyaf yng Nghymru.

11/08/25
Mae presgripsiynau electronig yn dod â 'buddion enfawr' i gleifion sy'n defnyddio dyfeisiau meddygol yng Nghymru

Mae cleifion ledled Cymru sy'n defnyddio dyfeisiau meddygol a chyfarpar a roddir ar bresgripsiwn yn elwa o wasanaeth mwy diogel ac effeithlon, yn dilyn cam sylweddol ymlaen wrth gyflwyno meddalwedd arloesol. 

04/07/25
Cleifion mewn ysbytai i elwa o ragnodi digidol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dewis Better fel ei bartner technoleg i ddarparu system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA)

Tri aelod o staff mewn coridor ysbyty yn sefyll tu ol gyfrifiadur personol sy
Tri aelod o staff mewn coridor ysbyty yn sefyll tu ol gyfrifiadur personol sy
23/05/25
Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig 'Arloesol' bellach yn fyw yn hanner fferyllfeydd cymunedol Cymru

Mae gwasanaeth digidol a ddisgrifiwyd gan staff gofal iechyd fel un sy'n 'arloesol' bellach ar gael mewn dros 50% o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru. 

08/05/25
Trawsnewid digidol i wella gofal ysbyty i gleifion ym Mhowys

Mae cleifion ar fin elwa ar drawsnewidiad digidol cyffrous ym Mhowys, wrth i gam mawr ymlaen gael ei gymryd tuag at ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau mwy diogel a mwy effeithlon mewn ysbytai.

20/02/25
Miliwn o eitemau wedi'u dosbarthu yng Nghymru drwy'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig

Mae miliwn o eitemau presgripsiwn bellach wedi’u dosbarthu yng Nghymru drwy wasanaeth digidol sy’n gwneud y broses ragnodi yn haws ac yn fwy diogel i gleifion.

Fferyllydd sy
Fferyllydd sy
14/02/25
Systemau digidol newydd i chwyldroi darpariaeth gofal i gleifion ysbyty ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyflwyno system Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau yn Electronig (ePMA) newydd i wella diogelwch cleifion a symleiddio llifoedd gwaith ysbytai. Fel rhan o Raglen Moddion Digidol GIG Cymru, mae ePMA yn gwella effeithlonrwydd, yn lleihau costau ac yn cefnogi strategaeth iechyd hirdymor BIPAB.

17/01/25
Cymeradwyo tri chyflenwr system fferyllol arall i gyflwyno technoleg EPS yng Nghymru

Cymerwyd cam mawr ymlaen o ran darparu’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, gyda thri chyflenwr system arall yn cael cymeradwyaeth i gyflwyno eu meddalwedd mewn fferyllfeydd cymunedol. 

Fferyllydd yn gweld manylion ar botel o feddyginiaeth
Fferyllydd yn gweld manylion ar botel o feddyginiaeth
06/12/24
Cegedim yw'r cyflenwr systemau fferyllol diweddaraf i gefnogi'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Cwmni technoleg gofal iechyd Cegedim yw’r cyflenwr systemau fferyllol diweddaraf i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru.

Llun proffil o Simon Nelson, fferyllydd a pherchennog Nelson
Llun proffil o Simon Nelson, fferyllydd a pherchennog Nelson
02/12/24
Ffocws ar gydweithio yn nigwyddiad rhwydweithio Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig

Cydweithio oedd y ffocws mewn digwyddiad allweddol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweithio ar raglen ddigidol drawsnewidiol a chyffrous i Gymru.

Llun grŵp o gyfranogwyr yn y Digwyddiad Dysgu Rhwydweithio Cydweithredol Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd (ePMA)
Llun grŵp o gyfranogwyr yn y Digwyddiad Dysgu Rhwydweithio Cydweithredol Presgripsiynu a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd (ePMA)
20/11/24
Contractwyr cyfarpar dosbarthu cyntaf bellach yn defnyddio'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig yng Nghymru

Mae rhai cleifion sy’n defnyddio dyfeisiau meddygol ac offer a roddir ar bresgripsiwn bellach yn gallu cofrestru ar gyfer gwasanaeth cyfleus, yn dilyn profion llwyddiannus gan nifer o gontractwyr cyfarpar yng Nghymru.