Neidio i'r prif gynnwy

Dogfennau cleifion mewnol pediatrig i fynd yn ddigidol

20 Ebrill 2023

Mae system ddigidol arloesol ar gyfer nodiadau cleifion ar fin symud i'w thrydydd cam wrth i nodiadau cleifion mewnol plant gael eu cynnwys yn y system.

Ddwy flynedd ar ôl lansio Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) ym mis Ebrill 2021, bydd y prosiect nawr yn symud i’r cam nesaf, ac mae dogfennaeth ar gyfer cleifion mewnol pediatrig bellach yn mynd yn ddigidol diolch i £1.8m o gyllid o Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru.

Mae cam un a dau o'r prosiect wedi canolbwyntio ar wardiau cleifion mewnol oedolion mewn ysbytai acíwt a chymunedol. Mae system ddigidol wedi disodli nodiadau papur traddodiadol, gan drawsnewid y ffordd y mae nyrsys yn cofnodi, storio a chyrchu gwybodaeth.

Mae nyrsys bellach yn treulio llai o amser yn dyblygu gwybodaeth ar ffurflenni papur a mwy o amser yn gofalu am gleifion. Mae mynediad at nodiadau digidol cywir a chyfredol yn galluogi nyrsys i wneud penderfyniadau gwybodus am ofal claf, ni waeth ble mae'r gofal hwnnw'n digwydd. Gall y buddion hyn bellach ymestyn i gleifion mewnol pediatrig yn ystod cam tri o'r prosiect.

Dywedodd Sian Thomas, yr Uwch Berchennog Cyfrifol: “Mae ymestyn y Prosiect Digidoli Dogfennaeth Nyrsio i bediatreg (cleifion mewnol) yn ychwanegiad hanfodol i’r rhaglen ddigidol i sicrhau y gellir monitro taith y claf drwy ein systemau iechyd a lleihau dyblygu.”

Dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Mae’n wych bod y system ddigidol bellach yn cael ei chyflwyno i gleifion pediatrig, ac mae sefydlu cysondeb lle bo’n briodol yn bwysig iawn o safbwynt ansawdd a diogelwch. Mae symud i system ddigidol eisoes yn profi i fod o fudd gwirioneddol i nyrsys drwy osgoi dyblygu gwaith a chaniatáu iddynt dreulio mwy o amser yn gofalu am gleifion.”

Mae Nyrsys Clinigol Arbenigol ac Arbenigwyr Cynnyrch yn cael eu recriwtio i fyrddau iechyd ar hyn o bryd. Ymgysylltir â thimau clinigol pediatrig cyn ymweld â safle pob bwrdd iechyd yn ystod y misoedd nesaf.

Mae’r WNCR bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob un o’r saith bwrdd iechyd ledled Cymru ac Ymddiriedolaeth Felindre. Mae mwy na 3.9 miliwn o nodiadau cleifion wedi’u casglu hyd yma ac mae dros 86,000 o gleifion mewnol wedi’u hasesu’n ddigidol.