Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau ymgysylltu Ap GIG Cymru yn gwahodd cydweithio ar draws sefydliadau

18 Mawrth 2022

Mae Gwasanaethau Digidol i Gleifion a’r Cyhoedd (DSPP) yn cynnal sesiynau diweddaru misol i hysbysu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Gwahoddir staff GIG Cymru a’r sector cyhoeddus i sesiynau wedi eu cynnal o bell ar Microsoft Teams i ddilyn y daith wrth i DSPP wneud cynnydd wrth ddatblygu Ap GIG Cymru. Mae’r sesiynau hefyd yn llwyfan i randdeiliaid ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am DSPP neu Ap GIG Cymru.

Yn ystod y digwyddiad diweddaraf ar 4 Mawrth, ymunodd 131 o randdeiliaid â thrafodaeth bord gron ynghylch beth fydd natur dyfodol iechyd a gofal digidol.

Arweiniwyd y ford gron gan Stephen Frith, Cyfarwyddwr Rhaglen DSPP, a oedd yng nghwmni Sally Lewis, Cyfarwyddwr Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru; Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd a Thrawsnewid Digidol, Llywodraeth Cymru; Delyth James, Arweinydd Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru; a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Roedd y sgwrs yn gwahodd pob panelwr i rannu barn am beth fydd natur Ap GIG Cymru 5 mlynedd ar ôl ei lansio. Buont hefyd yn trafod prosiectau a mentrau digidol allweddol yng Nghymru, rhwystrau i drawsnewid gwasanaethau iechyd digidol, a gwersi ar gyfer iechyd digidol o’r ddwy flynedd ddiwethaf y dylid eu hystyried wrth ddylunio ar gyfer y dyfodol.

Gall staff GIG Cymru wylio recordiadau o sesiynau diweddaru DSPP blaenorol ar Sharepoint.

Cofrestrwch ar gyfer y rhestr bostio i gael gwahoddiad i sesiynau diweddaru Ap GIG Cymru a DSPP yn y dyfodol.