Neidio i'r prif gynnwy

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer gwerthusiad BMJ

8 Ebrill 2022

Ydych chi'n gweithio mewn gofal acíwt (gan gynnwys cleifion mewnol yn y gymuned) yn unrhyw un o'r rolau canlynol?

  • Meddygon Blwyddyn Sylfaen 1 a 2 yn gweithio ym maes gofal eilaidd
  • Meddygon arbenigol dan hyfforddiant sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd
  • Arbenigwyr Cyswllt sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd
  • Ymgynghorwyr gan gynnwys hyfforddwyr sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd
  • Nyrsys sy’n gweithio ym maes gofal eilaidd
  • Ymarferwyr nyrsio sy'n gweithio ym maes gofal eilaidd

Os felly, mae angen eich mewnbwn ar e-lyfrgell GIG Cymru ar gyfer gwerthusiad o BMJ Best Practice Comorbidities - offeryn cefnogi penderfyniadau clinigol sy'n helpu clinigwyr i ystyried cydafiachedd y claf wrth gael mynediad at wybodaeth am driniaeth a darparu cynllun rheoli cychwynnol iddynt yn gyflym sydd wedi'i deilwra i anghenion unigryw’r claf.

Bydd gwerthusiadau yn dechrau ar 25 Ebrill.

Os hoffech gymryd rhan yn y gwerthusiad hwn, a fyddech cystal â llenwi’r ffurflen NHS Wales Participant Registration and Declaration of Interest Form a bydd aelod o dîm yr e-Lyfrgell yn anfon gwybodaeth ymlaen atoch ar sut i gael mynediad at BMJ Best Practice Comorbidities.  

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag e-lyfrgell GIG Cymru.