Neidio i'r prif gynnwy

Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ymuno â WelshPAS

25 Ionawr 2023

Mae gweithrediad hirddisgwyliedig WelshPAS DHCW yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi mynd yn fyw. 

Mae WelshPAS yn cadw manylion adnabod cleifion, ac yn cofnodi manylion ymweliadau cleifion ag ysbytai, gan gynnwys rheoli rhestrau aros, cofnodion meddygol, triniaeth cleifion mewnol, apwyntiadau cleifion allanol ac ymweliadau brys. Mae gweithredu WelshPAS yng Nghanolfan Ganser Felindre yn rhan o 'Raglen Ganser' ehangach DHCW, a sefydlwyd i weithredu Datrysiad Gwybodeg Canser i Gymru i ddisodli’r System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (Canisc) gyfredol. 

Mae symud Canolfan Ganser Felindre i bensaernïaeth genedlaethol ac alinio un o’i systemau gweithredol allweddol â gweddill Cymru yn dod â manteision sylweddol gan gynnwys:

  • Y modd i weld cofnodion cleifion ar draws Cymru gyfan sy’n hwyluso ffyrdd mwy cydweithredol o weithio ar draws byrddau iechyd/ymddiriedolaethau
  • Proses weinyddol gyson ar draws y rhan fwyaf o GIG Cymru
  • Moderneiddio trwy wella'r system yn barhaus i ddiwallu anghenion defnyddwyr a sefydliadau
  • Y gallu i Ganolfan Ganser Felindre integreiddio'n well â systemau/cymwysiadau eraill

Roedd y cyflawniad hwn yn ganlyniad uniongyrchol i ymrwymiad, penderfyniad ac ymdrech gan bawb a gymerodd ran, yn ogystal â chydweithio a gwaith tîm ar draws y ddau sefydliad. Mae’r adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae defnyddwyr yn canmol gwell mynediad at wybodaeth glinigol y mae'r system newydd yn ei darparu.

Dywedodd Cath O'Brien, Prif Swyddog Gweithredu Gwasanaethau Canser Canolfan Ganser Felindre, “Mae gweithredu’r Cofnod Iechyd a Gofal Digidol (DHCR) yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi bod yn gamp gydweithredol anhygoel ac mae staff o DHCW a’r Ganolfan yn gweithio gyda'i gilydd fel un tîm. Mae'r amserlen ar gyfer cyflawni hyn wedi bod yn dyst i waith caled a dyfalbarhad llawer o staff ar draws y ddau sefydliad. Mae hwn wedi bod yn brosiect newid sylweddol yn ogystal ag un digidol a hoffem ddiolch i’n cydweithwyr sydd wedi datblygu a mabwysiadu’r ffyrdd newydd o weithio.”

Dywedodd Carl Davies, Rheolwr Cymhwysiad WelshPAS yn DHCW, “Mae gweithio gyda’n gilydd fel un tîm wedi golygu bod DHCW a Chanolfan Ganser Felindre wedi gallu darparu system WelshPAS sy’n gweithio i amserlenni diwygiedig yn dilyn yr oedi a achoswyd gan COVID. Mae cael y dull cydweithredol hwn wedi golygu ein bod wedi gallu mynd i’r afael â materion yn uniongyrchol a darparu cynnyrch sefydlog.”

Dywedodd Emma Jones, Rheolwr Prosiect yn DHCW, “Mae gweithredu WelshPAS yng Nghanolfan Ganser Felindre wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Yn bersonol, rwy'n falch iawn o bob un person a fu'n ymwneud â sicrhau bod y broses ‘mynd yn fyw’ mor llwyddiannus, yn enwedig y bobl sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect ers y dechrau, sydd dros bum mlynedd bellach. Roedd llwyddiant y broses ‘mynd yn fyw’ i'w briodoli i bartneriaeth waith agos ac ethos tîm, cynllun clir a manwl ar gyfer y newid a'r gwaith caled, y penderfyniad a nifer o wahanol bobl yn mynd y filltir ychwanegol i ddatblygu gweithgarwch i fynd yn fyw - roedd gwir angen byddin o bobl i gyrraedd y cam hwnnw.”

Bydd gweithrediad mawr nesaf WelshPAS ym mis Mai 2023 pan fydd WelshPAS Dwyrain Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mudo i WelshPAS Gorllewin/Canolbarth Cymru i greu un WelshPAS ar draws y bwrdd iechyd. Mae’r tîm hefyd yn gweithio i integreiddio PAS Caerdydd a’r Fro ag Ystorfa Menter Llwybrau Cyfeirio, Gweithgarwch a Chleifion (WRAPPER) i weld holl ddata PAS mewn un man ar draws systemau yng Nghymru. Bydd hyn yn hwyluso ffordd fwy cydweithredol o weithio ar draws ffiniau sefydliadol.