Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r system brechu yn cefnogi 9 miliwn o bigiadau

28 Mawrth 2023

Bydd System Imiwneiddio Cymru (WIS) a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi rhaglen brechiadau atgyfnerthu y Gwanwyn yng Nghymru a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill.

Mae system WIS wedi darparu 8.9 miliwn o frechiadau ers dechrau’r pandemig, ac wedi darparu 1.1 miliwn o frechiadau yn ystod rhaglen gaeaf 2022 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. 

Cymru yw'r unig ran o'r DU i ddatblygu datrysiad rheoli brechu mewn modd digidol gan ddefnyddio tîm meddalwedd mewnol sy'n bodoli eisoes.

Bu’r tîm o Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ddarparu’r datrysiad digidol ar gyfer rheoli, dosbarthu ac adrodd ar y rhaglen frechu Covid 19.

Mae'r system yn defnyddio gwybodaeth am ddemograffeg cleifion, grwpiau galwedigaeth a lefelau blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer derbyn y brechiad, er mwyn trefnu apwyntiadau ar gyfer cleifion.  Mae hefyd yn cadw cofnod o lefelau stoc brechiadau, yn creu slotiau ar gyfer apwyntiad, yn anfon llythyrau apwyntiadau, ac yn cofnodi manylion yr holl frechiadau ar gyfer pob brechiad Covid 19 a roddir yng Nghymru.

Bydd brechiadau atgyfnerthu yn ystod rhaglen Gwanwyn 2023 ar gael i bob oedolyn 75 oed a throsodd, preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn ac unigolion 5 oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan.

Bydd y cynnig ‘cyffredinol’ o gwrs brechiadau Covid-19 sylfaenol i bawb 5 oed a hŷn yn dod i ben yn unol â rhaglen atgyfnerthu diwedd y Gwanwyn ar 30 Mehefin 2023. Bydd y cynnig o dderbyn brechiad atgyfnerthu ‘cyffredinol’, sydd wedi bod ar gael yng Nghymru ers 2021, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023.