Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion Diweddaraf

 

11/05/23
Dyfarnu 'Safon Aur' Iechyd a Llesiant i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Mae DHCW wedi llwyddo i ennill gwobr ‘Safon Aur’ mewn Gwiriad Statws Uwch yn y Safon Iechyd Corfforaethol.

20/04/23
Dogfennau cleifion mewnol pediatrig i fynd yn ddigidol

Mae system ddigidol arloesol ar gyfer nodiadau cleifion ar fin symud i'w thrydydd cam wrth i nodiadau cleifion mewnol plant gael eu cynnwys yn y system.

04/04/23
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn rownd derfynol Gwobrau Digidol HSJ

Cyhoeddwyd bod Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a’r tîm y tu ôl i gyfres o ddangosfyrddau data GIG Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Digidol HSJ eleni. Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth mewn digideiddio, cysylltu a thrawsnewid iechyd a gofal.

03/04/23
Sbotolau ar Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru

Roedd Rachael Powell a Rachel Gemine yn BioCymru, Llundain yn trafod trawsnewid digidol, cefnogi ymchwil ac arloesi trwy fynediad at ddata a phwysigrwydd partneriaethau effeithiol.

03/04/23
Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol sy'n helpu i ddigideiddio presgripsiynau yng Nghymru yn agor heddiw

Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio cronfa newydd heddiw i helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol digidol yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth presgripsiwn electronig (EPS).

30/03/23
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yn Rewired 2023

Daeth DHCW a'r gymuned iechyd digidol at ei gilydd am ddau ddiwrnod o ddysgu a rhwydweithio yn Digital Health Rewired yn gynharach y mis hwn.

28/03/23
Mae'r system brechu yn cefnogi 9 miliwn o bigiadau

Bydd System Imiwneiddio Cymru (WIS) a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi rhaglen brechiadau atgyfnerthu y Gwanwyn yng Nghymru a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill.

Mae system WIS wedi darparu 8.9 miliwn o frechiadau ers dechrau’r pandemig, ac wedi darparu 1.1 miliwn o frechiadau yn ystod rhaglen gaeaf 2022 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. 

27/03/23
Clinigwyr i ddweud eu dweud ar systemau digidol ledled Cymru

Bydd arolwg newydd yn casglu adborth gan glinigwyr sy’n gweithio i GIG Cymru ar effeithiolrwydd y systemau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.

20/03/23
Croeso i'n tîm newydd o feddygon teulu

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod gennym dîm newydd o bum Meddyg Teulu sydd wedi ymuno â DHCW yn rhan-amser yn ein Cyfarwyddiaeth Glinigol.

13/03/23
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn mynd o nerth i nerth

Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ar ôl casglu mwy na 3.9 miliwn o gofnodion nyrsio cleifion mewnol yn ystod y 22 mis diwethaf.

09/03/23
Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Digidol Cymru i siarad yn y digwyddiad MediWales nesaf; bydd yn trafod Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru

Mae digwyddiad MediWales ar y gweill yn Llundain a fydd yn tynnu sylw at ddatblygiadau technegol newydd yn GIG Cymru a Gwyddorau Bywyd Cymru. Bydd Rachael Powell, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Deallusrwydd ac Ymchwil Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn siaradwr gwadd.

23/02/23
Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal Digwyddiad Data Mawr - y cyntaf o'i fath yng Nghymru

Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad Data Mawr ar 29 Mawrth 2023 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.

10/02/23
Mae dangosfwrdd digidol newydd yn gwella'r restr aros ar gyfer trawsblaniad aren ac yn cyflymu gwiriadau cydnawsedd rhoddwyr

Mae dangosfwrdd newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan dimau GIG Cymru yn caniatáu i glinigwyr a staff labordy weld gwybodaeth am gleifion yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru sy’n aros am drawsblaniad aren yn gyflymach ac yn haws.

03/02/23
Menywod yng Nghymru i elwa ar system famolaeth ddigidol newydd

Mae Mamolaeth Ddigidol Cymru yn falch o gyhoeddi cymeradwyaeth Gweinidogol a £7m o gyllid ar gyfer rhaglen waith pum mlynedd a fydd yn trawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn ddigidol i fenywod a chlinigwyr yng Nghymru.

Woman in hospital receiving ultrasound scan
Woman in hospital receiving ultrasound scan
25/01/23
Cyfnod segur Microsoft Global

Cadwodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru gysylltiadau agos â Microsoft yn ystod y cyfnod segur byd-eang ar 25 Ionawr, 2023 a effeithiodd ar Microsoft Teams, Office 365 a gwasanaethau ar-lein eraill Microsoft.

25/01/23
Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn ymuno â WelshPAS

Mae gweithrediad hirddisgwyliedig WelshPAS DHCW yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi mynd yn fyw. 

24/01/23
Rheolwr Cydafiacheddau BMJ Best Practice bellach ar gael ym mhob rhan o GIG Cymru 

Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ymestyn ei thanysgrifiad cenedlaethol i BMJ Best Practice i gynnwys y Rheolwr Cydafiacheddau ar gyfer holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol GIG Cymru.

19/01/23
Ymchwiliwch i yrfa mewn technoleg yn y diwrnod agored i fyfyrwyr

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), a enillodd wobr y lle gorau i weithio ym maes TG yn ddiweddar, yn cynnal diwrnod agored gyrfaoedd ddydd Mawrth 31 Ionawr 2023.

17/01/23
Gwasanaeth digidol newydd yn darparu gwybodaeth hanfodol ar gyfer gofal arennol

Mae crynodeb digidol o ofal cleifion arennol bellach ar gael ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP), sy’n golygu bod gwybodaeth hanfodol ar gael pan fydd ei hangen. 

23/12/22
Mae nodyn diabetes digidol yn cysylltu gwybodaeth

Yn ôl gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda chleifion diabetes, mae cofnod electronig a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer cleifion diabetes yn ‘drawsnewidiad go iawn’.