Lansiwyd y gwasanaeth yn y Rhyl, ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, fis Tachwedd diwethaf ac mae’n cael ei gyflwyno ledled Cymru cyn gynted â phosibl ac mor ddiogel â phosibl.
Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi ehangu’r Rhaglen Sgrinio Coluddion yng Nghymru i oedrannau iau.
Cafodd y Rhaglen Ddysgu Dadansoddeg (ALP) ei seremoni wobrwyo flynyddol i ddathlu llwyddiant ei phrosiectau dadansoddi cydweithredol ar 2 Hydref 2024. Daeth y digwyddiad hybrid â gweithwyr data proffesiynol o bob rhan o Gymru ynghyd i gyflwyno eu datrysiadau ac i gystadlu am y gwobrau.
Diweddariad i Ranbarth yr Adnodd Data Cenedlaethol i Gynnwys y Datblygiadau Diweddaraf a Sbotolau Partneriaid
Mae datblygiad digidol newydd wedi galluogi golwg unedig o ddata a gedwir mewn systemau gweinyddu cleifion (PAS) ledled Cymru am y tro cyntaf.
Digwyddiad Data Mawr yn archwilio cydweithio fel yr allwedd i ddatgloi pŵer data wrth chwyldroi gwasanaethau cyhoeddus.
Bydd gwasanaeth digidol newydd sy’n cael ei lansio yr hydref hwn yn canoli’r broses ar gyfer cael mynediad at ofal arferol gan ddeintydd GIG i bobl ledled Cymru.
Dau o swyddogion gweithredol DHCW wedi’u henwi yn rownd derfynol categori Arweinydd Digidol y Flwyddyn Gwobrau Arweinwyr Digidol 2024 100 (DL100).
100,000fed eitem presgripsiwn wedi'i ddosbarthu ar ôl cael ei anfon yn electronig o bractis meddyg teulu i fferyllfa.
Mae adroddiad polisi’r DU nodedig sy’n nodi argymhellion i wella gofal a goroesiad canser y gwaed wedi elwa ar fewnbwn arbenigol gan ddadansoddwyr data yn IGDC.
Cymerodd Fran Beadle, Beverley Havard, Anne Watkins, Sian Thomas ac Abi Swindail ran yn y digwyddiad ym Manceinion. Thema’r gyngres eleni oedd arloesi mewn gwybodeg nyrsio gymhwysol.
Mae ail gam prosiect darganfod iechyd meddwl wedi nodi saith blaenoriaeth allweddol i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.
Mewn hwb pellach i’r defnydd o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru, cyhoeddir PharmacyX fel y cyflenwr technoleg gofal iechyd diweddaraf i helpu Iechyd a Gofal Digidol Cymru i gyflawni’r newid cyffrous hwn.
Mae pobl yn Sir Ddinbych yn ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio offer digidol fel Ap GIG Cymru.
Mae cleifion mewn cymuned ym Mhowys yn elwa o ragnodi haws a mwy diogel, diolch i wasanaeth sy’n anfon presgripsiynau’n electronig o’u practis meddyg teulu i fferyllfa neu ddosbarthwr o’u dewis.
Mae gwybodegydd clinigol yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) wedi ennill teitl mawreddog Nyrs y Frenhines.
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod IGDC wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2024.
Mae cynlluniau i gyflwyno system bresgripsiynau electronig newydd yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw (Dydd Mawrth, 3 Medi 2024) gyda’r cyhoeddiad bod y bwrdd iechyd wedi dewis Nervecentre fel ei gyflenwr technoleg.
Mae cleifion mewn tair cymuned yng Nghonwy yn elwa o’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) wrth i’r gwaith o’i gyflwyno gyflymu yng ngogledd Cymru.
Mae’r trawsnewidiad digidol yn cyflymu yng Ngogledd Cymru wrth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddewis Better UK yn bartner technoleg i gyflwyno system ragnodi electronig ‘arloesol’ yn ei ysbytai.