Neidio i'r prif gynnwy

DHCW yn penodi dau Aelod Annibynnol newydd i'w Fwrdd

20 Medi 2022

Bydd Marilyn Bryan-Jones ac Alistair Klaas Neill GM yn derbyn swyddi fel Aelodau Annibynnol ar Fwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru o fis Medi 2022.

Mae Marilyn Bryan-Jones yn dod â phrofiad helaeth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector, sy'n cynnwys rolau fel ymddiriedolwr Cyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol ac wrth ddatblygu partneriaethau strategol ar gyfer Strategaeth Tai Cyngor Caerdydd.  Mae ganddi arbenigedd mewn cefnogi sefydliadau yn eu hamrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant ac mae hefyd yn aelod gweithgar o Grŵp Treftadaeth y Caribî.

Mae Alistair Neill yn ymuno â'r sefydliad gyda dros 20 mlynedd o brofiad uwch arweinyddiaeth yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ar lefel cwmnïau rhyngwladol, gan gynnwys 18 mlynedd fel prif weithredwr awdurdod lleol. Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Sir Fynwy.  Arweiniodd yr ymateb i’r pandemig yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr tan 2021.

Dywedodd Simon Jones, Cadeirydd Bwrdd DHCW: "Rydym wrth ein boddau ein bod yn croesawu Marilyn ac Alistair i'n tîm o aelodau'r Bwrdd. Bydd eu gwybodaeth a'u profiad yn cynnig llawer iawn o werth ac arbenigedd i'n sefydliad. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda'r ddau ohonyn nhw."

Bydd Marilyn ac Alistair yn cymryd rhan yn eu cyfarfod bwrdd cyhoeddus DHCW cyntaf ar 29 Medi am 10am, a fydd ar gael i’w ffrydio'n fyw drwy Zoom.