Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i'n diwrnod agored recriwtio rhithwir ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 – 16 Medi 2022

1 Medi 2022

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal diwrnod agored recriwtio rhithwir ddydd Gwener 16 Medi 2022 i recriwtio arweinwyr technegol a datblygwyr ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol GIG Cymru.

Mae ein tenantiaeth Microsoft 365 ymhlith y mwyaf yn y DU. Mae 130,000 o ddefnyddwyr ac rydym yn chwilio am dîm o bobl a fydd yn ganolog wrth sicrhau ei chefnogaeth a'i datblygiad parhaus.

Darllenwch fwy o wybodaeth am ddiwrnod agored recriwtio Microsoft 365.

Ein swyddi gwag presennol yw:

 

Sut i fynychu

Archebwch slot gyda thîm y Ganolfan Ragoriaeth i gael trafodaeth anffurfiol am gyfleoedd swyddi gwag a manylion am y rolau.