Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru i arwain a galluogi Ymchwil ac Arloesi

3 Tachwedd 2022

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rhoi ffocws o’r newydd ym maes ymchwil ac arloesi, gan ddatblygu’r gwaith y mae eisoes yn ei wneud gyda sefydliadau partner ledled Cymru ym meysydd gwella, arloesi ac ymchwil yn iechyd a gofal cymdeithasol.  

Gall ymchwil ac arloesi gynyddu effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gofal iechyd a gall gefnogi sefydliadau a gwasanaethau gofal iechyd i ddarparu gwell gofal i bobl.  

Bydd tîm a swyddogaeth bach, penodedig yn cydlynu ac yn cefnogi gwaith ymchwil ac arloesi ar draws Iechyd a Gofal Digidol Cymru a byddant yn ychwanegu at y gwaith sydd eisoes yn digwydd.  Dywedodd Rachael Powell, Cyfarwyddwr Cyswllt Gwybodaeth, Deallusrwydd ac Ymchwil, 

“Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydliad sy’n arwain ac yn cydweithio mewn data ac ymchwil ac arloesedd digidol o ansawdd uchel i wella canlyniadau gwasanaethau ac iechyd i ddinasyddion Cymru. Mae gennym bortffolio o brosiectau arloesol newydd a chyfleoedd cyffrous, er enghraifft, yr Adnodd Data Cenedlaethol. 

“Bydd y ffocws newydd hwn yn gweithredu fel ‘drws ffrynt’ i’r sefydliad ar gyfer y gweithgarwch hwn yn y dyfodol.”  

Cymeradwywyd strategaeth Ymchwil ac Arloesi newydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd Iechyd a Gofal Digidol Cymru ym mis Medi ac mae'n ychwanegu at rôl sefydledig y sefydliad o weithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill y GIG, prifysgolion, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill i alluogi prosiectau a gweithgareddau proffil uchel. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachael.Powell@wales.nhs.uk.