Neidio i'r prif gynnwy

Dwy raglen ddigidol genedlaethol yn trosglwyddo i Iechyd a Gofal Digidol Cymru

4 Tachwedd 2022

Mae Grŵp Gweithredol Cydweithrediaeth Iechyd GIG Cymru wedi cytuno y bydd Rhaglenni Digidol Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) a Chaffael y System Gwybodeg Radioleg (RISP) yn trosglwyddo i Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).

DHCW yw’r awdurdod contractio ar gyfer y prif gytundeb gwasanaethau ar hyn o bryd ar gyfer y System Rheoli Gwybodaeth Labordy newydd a hwn fydd yr awdurdod contractio ar gyfer y System Gwybodeg Radioleg sy’n cael ei chaffael ar hyn o bryd. Bydd y trefniadau newydd yn galluogi DHCW i reoli gweithrediad a risgiau cysylltiedig y rhaglenni hyn.

Bydd yn golygu y bydd aelodau staff sy’n gweithio ar hyn o bryd ar y rhaglenni LINC a RISP ar gyfer y Gydweithrediaeth (a letyir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru), yn dod yn gyflogeion i DHCW.

Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Rydym yn croesawu’r cyfle hwn i ehangu ein portffolio o waith, ac yn edrych ymlaen at weld cydweithwyr o’r Gydweithrediaeth yn ymuno â’n tîm, fel y gallwn barhau i ddarparu a datblygu gwasanaethau iechyd a gofal digidol arloesol ar gyfer GIG Cymru.”