Neidio i'r prif gynnwy

Bydd sesiwn graffu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn taflu goleuni ar bwysigrwydd iechyd digidol yng Nghymru

25 Hydref 2022

Ddydd Mercher 26 Hydref, cynhelir sesiwn graffu ar y cyd yn y Senedd ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a thrawsnewid digidol ar draws GIG Cymru.

O dan arweiniad Pwyllgor Iechyd a Chymdeithasol y Senedd a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, bydd yn adolygu blwyddyn gyntaf DHCW a’i gynnydd ar draws nifer o feysydd penodol. Mae’r rhain yn cynnwys y rhaglen waith i gyflawni trawsnewid digidol ledled Cymru, cydweithio rhwng byrddau iechyd a sefydliadau partner, gweithlu a chapasiti, a thryloywder, hygyrchedd ac ansawdd data.

Bydd y sesiwn banel yn mynd ar drywydd nifer o argymhellion ar gyflenwi iechyd a gofal cymdeithasol digidol yng Nghymru wedi’u hamlinellu yn adroddiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Bumed Senedd, a gyhoeddwyd yn 2018. Bydd yn archwilio cyflawniadau DHCW ers ei lansio ym mis Ebrill 2021, ond bydd hefyd yn canolbwyntio ar y rhwystrau i drawsnewid digidol gyda’r nod o adnabod meysydd i'w gwella.

Dywedodd Simon Jones, Cadeirydd DHCW: “Rydym yn croesawu’r cyfle i adolygu cynnydd blwyddyn gyntaf Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig ac i dynnu sylw at bwysigrwydd y byd digidol ar gyfer gwell iechyd a gofal yng Nghymru. Yn rhan o deulu GIG Cymru ac yn bartner dibynadwy, mae’n flaenoriaeth i ni fwrw ymlaen â thrawsnewid digidol ac ymrwymo i welliant parhaus ym mhob maes.”

Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW: “Ers ei lansio ym mis Ebrill 2021, mae DHCW wedi gwneud cyflawniadau nodedig ym maes arloesi a thrawsnewid digidol, gan gynnwys cyflwyno technolegau ysbyty modern, gwella systemau hanfodol, creu system imiwneiddio arobryn a throsglwyddo i ganolfan ddata newydd yn llwyddiannus.

 

“Dyma gyfle i ddangos rôl gynyddol bwysig technoleg ac arloesi digidol wrth wella bywydau a thrawsnewid gofal ledled Cymru.”

Cynhelir yr adolygiad craffu ar ffurf sesiwn banel fyw. Bydd yn cynnwys aelodau o'r ddau bwyllgor a chynrychiolwyr o DHCW. Caiff ei ffrydio’n fyw ar Senedd.TV o 9am ddydd Mercher a bydd ar gael i’w wylio yma.