Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol yn ennill prif wobr TG gofal iechyd y DU am arweinyddiaeth ysbrydoledig

Tachwedd 9 2023

Mae Rhian Hamer, Cyfarwyddwr Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr fawreddog diwydiant TG yn y DU 2023 am ei gwaith ysbrydoledig yn arwain un o’r newidiadau iechyd digidol mwyaf yng Nghymru.

Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at gyflymder technolegol ac yn cydnabod ymdrechion y bobl sy'n creu byd gwell gan ddefnyddio TG. Cynhelir y digwyddiad bob blwyddyn gan Gymdeithas Cyfrifiaduron Prydain (BCS), y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG a Chyfrifiadura.

Derbyniodd Rhian y clod ‘Unigolyn Ysbrydoledig’ am ei dull newydd o drawsffurfio ar raddfa fawr. Am y tro cyntaf yng Nghymru, sefydlodd bedair rhaglen a phrosiect cysylltiedig sydd gyda’i gilydd yn ffurfio’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Fel Cyfarwyddwr Portffolio mae ei harddull cynhwysol a chydweithredol wedi ysgogi cynnydd cyflym ers sefydlu’r Portffolio ym mis Ebrill 2022, gyda’r nod o ddarparu dull rhagnodi cwbl ddigidol ar draws pob lleoliad gofal yng Nghymru.

Gydag enwebeion o bob rhan o’r DU a phedwar ar y rhestr fer a phenderfynodd y beirniaid fod Rhian yn sefyll allan am ei hymrwymiad cryf i sicrhau profiad sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid tra’n grymuso a datblygu talent yn ei thîm.

Un enghraifft yw ei gwaith gyda chyflenwyr TG y diwydiant, sydd wedi ail greu y model darparwr prynwyr traddodiadol i gynnwys cydweithio a phartneriaeth go iawn.

 

Dywedodd Rhian:

 

“Rwyf wrth fy modd o fod wedi ennill, ac rwy’n ei hystyried yn anrhydedd enfawr. Er mai gwobr unigol yw hon, mae’n cynrychioli cymaint mwy megis parodrwydd y tîm i wneud pethau’n wahanol ac yn gyflym a’r partneriaethau gwirioneddol ac ystyrlon yr ydym wedi’u datblygu gyda chlinigwyr, fferyllwyr, defnyddwyr a diwydiant.”

 

Dywedodd Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol Portffolio:

 

“Mae hon yn wobr haeddiannol. Yn bersonol, ac yn broffesiynol mae Rhian wedi gwneud cyfraniad enfawr i'r Portffolio. Mae hi'n unigolyn ysbrydoledig sy'n cael y gorau allan o bobl, yn annog grymuso ac yn meithrin potensial mewn eraill. Mae pawb sy'n cwrdd â hi yn cael eu hysbrydoli a'u hysgogi gan ei hymagwedd.

“Rydyn ni’n hynod falch o’r cyfan mae hi wedi’i gyflawni a’r ffordd eithriadol mae hi’n gwneud gwahaniaeth.”

 

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMPT) yw 'gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir.

Dysgwch ragor am y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol