Neidio i'r prif gynnwy

Llwyddiant WASPI yn cael ei gydnabod gan arbenigwyr yn y diwydiant

5fed Hydref 2023

Mae Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn a Thîm Llywodraethu’r Flwyddyn yng ngwobrau Risg GRC World Forums sy’n dathlu rhagoriaeth fyd-eang mewn Llywodraethu, Risg a Chydymffurfiaeth.

Mae WASPI yn set gyffredin o egwyddorion a safonau sy’n cefnogi rhannu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau i bobl Cymru. Mae’r Cytundeb wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn mae ganddo dros 300 o brotocolau rhannu gwybodaeth ar waith ledled Cymru sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan cyhoeddus WASPI Mae dros 750 o sefydliadau wedi cytuno ac ymrwymo i WASPI. 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dave Parsons, “Mae’r twf hwn o ganlyniad i ymroddiad ac ymrwymiad y bobl yn y tîm dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi bod wrth wraidd y gwaith datblygu cynigion er mwyn gwella’r fframwaith ymhellach i fod yn God Ymddygiad posibl y gellid ei gymeradwyo gan yr ICO.”

Mae swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) am gyflwyno rhaglen o Godau Ymddygiad i alluogi sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i gydymffurfio. Mae'r gwaith a gwblhawyd hyd yma wedi rhoi WASPI ar y blaen o ran dod yn un o'r Codau Ymddygiad cyntaf a gymeradwywyd gan yr ICO ar gyfer y DU gyfan

Bydd canlyniad yr ymgynghoriad ar y cynnig Cod Ymddygiad yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr Hydref. Mae’r tîm wedi croesawu adborth a sylwadau ar y cynnig gan amrywiaeth o sefydliadau yn y sector cyhoeddus gan gynnwys: “mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at fwy o rannu data er budd dinasyddion. Bydd hefyd yn meithrin hyder mewn awdurdodau cyhoeddus sydd heb yr hyder i rannu data drwy ddarparu set glir o offer ac egwyddorion, yn ogystal ag archwiliadau allanol a sicrwydd.”  

Mae WASPI wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Tîm Llywodraethu’r Flwyddyn ochr yn ochr â thimau o gwmnïau gan gynnwys YouGov, HSBC, TikTok, Vodafone ac M&S. Mae hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Tîm Preifatrwydd y Flwyddyn ochr yn ochr â thimau gan gynnwys BT, Emirates, Bumble a Cognizant.  Cyhoeddir yr enillwyr 6 Rhagfyr, 2023.