Neidio i'r prif gynnwy

Partneriaeth newydd yn symleiddio ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023

16eg Hydref 2023

Mae partneriaeth rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a Rhaglen Frechu Cymru wedi symleiddio’r broses o gyflawni ymgyrch atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023.

Datblygwyd System Imiwneiddio Cymru (WIS) yn fewnol gan DHCW ar ddechrau’r pandemig. Dyma’r system ddigidol ganolog sydd wedi cefnogi gweinyddu dros 9.2 miliwn o frechiadau COVID-19 hyd yma.

Mae Byrddau Iechyd yn defnyddio WIS i nodi carfannau cymwys, cynllunio ble y caiff brechlynnau eu rhoi, trefnu apwyntiadau ac anfon gwahoddiadau. Mae brechwyr yn defnyddio'r system i gofnodi'r holl frechlynnau COVID-19 a roddir ac mae cydweithwyr fferyllol yn cofnodi lefelau a lleoliadau stoc y brechlynnau. Mae'r system hefyd yn caniatáu cofnodi’r brechlynnau ffliw a roddir ar y cyd â brechlynnau COVID-19.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae DHCW wedi bod yn gweithio'n agos gyda Rhaglen Frechu Cymru yn ogystal â phartneriaid gan gynnwys Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau. Sefydlwyd y rhaglen gan Weithrediaeth GIG Cymru fel rhan o Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol Cymru Llywodraeth Cymru. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn swyddogaeth gymorth genedlaethol newydd sydd â'r nod o ysgogi gwelliannau o ran ansawdd a diogelwch gofal yng Nghymru.

Mae’r bartneriaeth agos hon wedi arwain at symleiddio’r ymgyrch atgyfnerthu diweddaraf ar gyfer hydref 2023. Mae llif y data wedi gwella ac mae rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer ymgyrchoedd yn y dyfodol bellach yn cael eu rhannu gyda DHCW cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn caniatáu digon o amser i brofi newidiadau i'r system, gan nodi unrhyw fygiau a'u trwsio cyn i ddiweddariad gael ei gyflwyno i fyrddau iechyd. 

Mae ceisiadau unigol gan fyrddau iechyd am newidiadau i WIS bellach yn cael eu hidlo drwy Raglen Frechu Cymru, yn hytrach nag yn unigol i DHCW. Gall y tîm Cymwysiadau Cymunedol sy'n gyfrifol am reoli WIS ffurfweddu'r system ar unwaith i lefel genedlaethol Cymru.

Dywedodd Joshua Hunt, Perchennog Gwasanaeth Cymwysiadau Cymunedol yn DHCW: “Mae WIS wrth wraidd llwyddiant yr ymgyrch frechu COVID-19 yng Nghymru. Mae'r gwaith y mae'r Tîm Cymwysiadau Cymunedol wedi'i wneud nid yn unig i gyflawni ond i wella'n iteraidd ar WIS wedi bod yn rhagorol. Mae prosesau wedi'u rhoi ar waith sy'n sicrhau bod gennym reolaeth briodol o ofynion meddalwedd ond hefyd mwy o weithio mewn partneriaeth â Gweithrediaeth y GIG. Mae’r gwerth clir y mae’r cynnyrch hwn a ddatblygwyd gan DHCW yn ei roi i’r GIG ehangach yng Nghymru a dinasyddion Cymru yn destun balchder mawr.”

Dywedodd Clare Williams, Uwch-berchennog Risg (SRO) Brechlynnau yng Ngweithrediaeth GIG Cymru: “Mae WIS yn hanfodol i sut rydym ni yng Nghymru yn cynllunio, darparu ac adrodd ar ein hymgyrch frechu COVID-19.  Mae brechu rhag COVID-19 ymhell o fod yn fodel gwasanaeth sefydlog y gellir ei ailadrodd; mae gan bob ymgyrch yr ydym wedi'i chyflwyno gyda'n gilydd baramedrau a heriau gwahanol. Wrth gwrdd â’r heriau hynny mewn partneriaeth, hoffwn ddiolch i’r holl dimau DHCW a fu’n ymwneud â chynnal a chyflawni WIS, am eu brwdfrydedd a’u hymrwymiad i wella’r hyn a gynigir gan WIS Cymru yn barhaus.”

Mae buddsoddiad ychwanegol mewn awtomeiddio profion gan y tîm Cymwysiadau Cymunedol yn DHCW wedi arwain at ostyngiad yn yr amser a gymerir i gynnal profion system cyn gweithredu newid. Mae'n golygu y gellir cynnal sawl prawf ar yr un pryd, yn syth ar ôl ei gilydd a dro ar ôl tro. Mae hyn wedi arwain at fwy o hyder gan fyrddau iechyd o ran sefydlogrwydd y system a gostyngiad yn yr amser a gymerir i roi newidiadau ar waith megis brechlynnau newydd yn dod ar gael.

I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd ar gyfer pigiad atgyfnerthu COVID-19 hydref 2023 a manylion cyswllt pob bwrdd iechyd, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.