Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog Iechyd yn gweld arloesiadau digidol Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) ar waith

Gwelodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, systemau a gwasanaethau Iechyd a Gofal Digidol Cymru ar waith yn ystod ymweliadau â swyddfa DHCW yng Nghaerdydd ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot (CNPT) y mis hwn.

Ar ymweliad ag Ysbyty CNPT gwelodd y Gweinidog Iechyd drosti ei hun sut mae cysyniad ward ddigidol newydd yn trawsnewid prosesau dogfennu llafurus ar gyfer staff gofal iechyd a chleifion.

Yn allweddol i hyn mae dwy system ddigidol, sef Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) ac e-Ragnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau (EPMA), sy’n cael eu cyflwyno ledled Cymru.

Maent yn arbed amser ac yn gwella effeithlonrwydd, yn hybu diogelwch cleifion ac ansawdd gofal, ac yn arbed arian i Fyrddau Iechyd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Mae manteision y systemau digidol newydd yr ydym yn eu hariannu yn glir i’w gweld. Maent yn symleiddio prosesau gweinyddol ar gyfer staff gofal iechyd ac yn caniatáu iddynt ganolbwyntio ar ofal cleifion. 

“Yn ogystal â lleihau amseroedd aros a gwella ansawdd gofal, maen nhw hefyd yn arbed arian i fyrddau iechyd mewn hinsawdd ariannol hynod heriol.

“Arloesiadau fel hyn yw’r union fath o ddatrysiadau a fydd yn ein helpu i ddarparu GIG sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Fran Beadle, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio DHCW – a ddatblygodd WNCR mewn partneriaeth â holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru:

“Mae’r WNCR wedi trawsnewid nyrsio yng Nghymru trwy safoni dogfennau a darparu datrysiad digidol ymarferol, i wella diogelwch a phrofiad cleifion. Cydweithio, ymgysylltu a gwrando ar adborth gan staff nyrsio yw gwir lwyddiant y prosiect hwn.”

Mae’r WNCR yn galluogi clinigwyr i gofnodi, rhannu a chael mynediad at wybodaeth cleifion yn electronig ar draws wardiau, ysbytai a byrddau iechyd.

Canfu un darn o ymchwil ei fod wedi arbed 1,357,827 o ddarnau o ddogfennaeth bapur ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rhwng Awst 2021 a Gorffennaf 2023 – sy’n cyfateb i 135 o goed. Gwelwyd hefyd amcangyfrif o £1.66 yn llai yn cael ei wario ar argraffu fesul claf – gan arwain at arbedion blynyddol o tua £132,800.

Mae pob Bwrdd Iechyd a’r rhan fwyaf o ysbytai ledled Cymru bellach yn defnyddio’r cofnodion nyrsio electronig, a disgwylir i’r gweddill ymuno ym mis Mawrth 2024.

Wrth ymweld â swyddfa DHCW yng Nghaerdydd ar ymweliad ar wahân, cyfarfu’r Gweinidog â Simon Jones, Cadeirydd DHCW, Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol, Rhidian Hurle, Cyfarwyddwr Meddygol, Sam Hall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl, a Jamie Graham, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol Seiber. 

Manteisiodd y tîm ar y cyfle i siarad â’r Gweinidog am rai o’r systemau a’r gwasanaethau digidol allweddol sy’n helpu i gefnogi cydweithwyr yn GIG Cymru yn ogystal â’r gwaith y mae DHCW yn ei wneud ym maes seiberddiogelwch.

Dywedodd Helen Thomas, Prif Weithredwr DHCW, fod y WNCR yn enghraifft wych o sut mae digidol yn cefnogi’r llwybr gofal cyfan i gleifion a dinasyddion yng Nghymru: “Rydym yn darparu datrysiadau digidol ar gyfer GIG Cymru sy'n helpu i wella gofal cleifion trwy wneud gwasanaethau'n fwy diogel a gwella effeithlonrwydd.

“Roeddem wrth ein bodd bod y Gweinidog wedi cymryd yr amser i weld rhai o’n systemau ar waith a chlywed am feysydd ffocws allweddol i sicrhau bod ein systemau digidol a data yn gallu cefnogi ein cydweithwyr yn GIG Cymru yn effeithiol yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Mae EPMA yn darparu system electronig ar gyfer rhagnodi a rhoi meddyginiaethau i gleifion mewn ysbytai.

Yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

  • Mae wedi arbed mwy na 2,000 o oriau o amser rhagnodwr bob blwyddyn drwy ailysgrifennu siartiau meddyginiaeth sydd ar goll neu lawn yng Nghastell-nedd Port Talbot, a 3,600 awr arall y flwyddyn yn Ysbyty Singleton.
  • Mae wedi lleihau'r amser a dreulir ar rowndiau cyffuriau unigol fesul nyrs, fesul ward gan 10 munud yng Nghastell-nedd Port Talbot a 6 munud yn Singleton.
  • Mae wedi arbed 3,300 o oriau nyrsio y flwyddyn wrth chwilio am siartiau meddyginiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a 5,600 o oriau'r flwyddyn yn Singleton.
  • Mae nifer llai o gamgymeriadau sy'n gysylltiedig â rhagnodi a rhoi meddyginiaethau.

Bydd pob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth arall yn dechrau gweithredu’r system o 1 Ebrill 2024.

Cafodd y Gweinidog Iechyd weld system electronig ar gyfer llif cleifion hefyd, o'r enw Signal, a ddatblygwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.