Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ennill safon ryngwladol ar gyfer rheoli gwasanaethau

3ydd Hydref 2023

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru wedi cadw ei achrediad ar gyfer y Safon Ryngwladol ar gyfer Rheoli Systemau (ISO 20000).

Yn gynharach eleni cynhaliodd y sefydliad archwiliad allanol helaeth, dros gyfnod o bythefnos, o’r systemau rheoli, y bobl, a'r prosesau sy'n sail i ddatblygiad, darpariaeth a chefnogaeth ein systemau. 

Mae'r ISO 20000 yn safon ryngwladol mewn rheoli gwasanaethau ac mae arbenigwyr yn cytuno mai dyma’r ffordd orau o sefydlu, gweithredu, cynnal a gwella system rheoli gwasanaethau yn barhaus.

Mae cael ardystiad ISO 20000 yn helpu sefydliadau i feincnodi sut maen nhw’n darparu gwasanaethau, mesur lefelau gwasanaeth, ac asesu eu perfformiad. Mae'n galluogi adrannau i sicrhau bod eu prosesau rheoli gwasanaeth yn cyd-fynd â’r anghenion busnes yn ogystal ag arferion gorau rhyngwladol. Mae'n cyd-fynd yn fras â fersiwn 4 ITIL ac yn pwyso’n drwm arno.

Eleni estynnodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru gwmpas yr ardystiad i gynnwys yr holl wasanaethau hanfodol, gan gynnwys y rheini sy'n datblygu ac yn trosglwyddo.

Dywedodd Keith Reeves, Rheolwr Tîm Rheoli Gwasanaethau bod “cadw ein hachrediad ar y safon hon, a'i gynnal dros y blynyddoedd, yn dangos ymrwymiad Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddarparu’n effeithiol a rheoli’n barhaus systemau a gwasanaethau o ansawdd i’n rhanddeiliaid. Diolch yn fawr i bob un o’r timau a’r staff unigol sydd wedi cymryd rhan, gan gynnwys y rhai a helpodd i gydlynu’r archwiliad.”

Mae cam dilynol i’r archwiliad wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin 24-27, 2024