Mae GGGC yn casglu data o ffynonellau amrywiol ar draws gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn storio data yn ymwneud â dros 50 miliwn o ymweliadau cleifion allanol a 27 miliwn o achosion gofal cleifion mewnol.
Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru’n gweithio gyda byrddau iechyd, ymddiriedolaethau, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i sbarduno Ffrwd Waith Gwella ac Arloesi (3) Rhaglen Strategaeth Ddigidol GIG Cymru, gyda rhaglenni gwaith penodedig ar waith er mwyn:
Ar hyn o bryd, rydym yn casglu data o ffynonellau amrywiol ar draws gofal iechyd yng Nghymru. Rydym yn storio data yn ymwneud â dros 50 miliwn o ymweliadau cleifion allanol a 27 miliwn o achosion gofal cleifion mewnol.
Hefyd, rydym yn cadw cronfeydd data cenedlaethol eraill yn ymwneud â gofal eilaidd, genedigaethau, marwolaethau, iechyd plant a mwy. Mae byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r data hwn i fonitro, dadansoddi, llywio polisi, rheoli a gwella’r gofal y mae cleifion yn ei dderbyn.
Rydym yn datblygu Porth Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymru (WHCIP) newydd. Dyma fydd y pwynt canolog ar gyfer cael mynediad i’n holl wasanaethau a chynhyrchion data a deallusrwydd. Bydd rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gael yn y gwanwyn eleni.
Rydym yn darparu gwasanaethau a chymorth sy’n caniatáu i ddata cleifion gael ei gadw, ei drefnu neu ei ddosbarthu mewn gwahanol ffyrdd:
Rydym yn gwella ansawdd y wybodaeth a ddefnyddir yn GIG Cymru trwy safoni – gan geisio sicrhau dealltwriaeth ar y cyd o eiriau a rhifau a ddefnyddir mewn gwasanaethau gofal iechyd. Rydym yn cadw Geiriadur Data GIG Cymru – sef canllaw hawdd i’w ddefnyddio ar ddiffinio, casglu a dehongli’r safonau data a gytunir yn genedlaethol a fabwysiedir gan y GIG yng Nghymru, yn ogystal â gwasanaethau Safonau Data.