Croeso i wefan Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru.
Yma, byddwch yn gallu gweld ystod o wybodaeth am ddosbarthiadau clinigol (y cyfeirir atynt yn aml fel ‘codio clinigol’) a’u defnydd wrth ddisgrifio gweithgarwch gofal iechyd GIG Cymru.
Rheolir gwasanaeth Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru gan y Tîm Dosbarthiadau Clinigol sy'n rhan o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (or IGDC).
Mae'r tîm yn bennaf gyfrifol am gyflawni'r swyddogaethau canlynol:
Cefnogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau, safonau dosbarthu clinigol a chanllawiau ar gyfer gwasanaethau codio clinigol yn GIG Cymru.
Hyrwyddo cydweithio mewn perthynas â dosbarthiadau clinigol a data wedi'u codio'n glinigol ar draws GIG Cymru.
Gweithredu ar ran GIG Cymru ar fyrddau a fforymau dosbarthu clinigol arbenigol cenedlaethol (DU) perthnasol, megis UK Classifications Technical Advisory Committee a'r Bwrdd Arholi National Clinical Coding Qualification.
Cynnal a threfnu'r rhaglen hyfforddi codio clinigol genedlaethol ar ran GIG Cymru.
Adolygu a chynnal safonau dosbarthu clinigol cenedlaethol GIG Cymru, y gellir eu gweld trwy Eiriadur Safonau Dosbarthiadau Clinigol GIG Cymru.
Ymateb i ymholiadau gan wasanaeth codio clinigol Cymru a godwyd trwy'r ddesg gymorth genedlaethol.
Cynllunio a gweithredu rhaglen genedlaethol o archwiliad dosbarthiadau clinigol ar gyfer GIG Cymru.
Os hoffech gael unrhyw wybodaeth bellach am waith y tîm, gallwch gysylltu â'r tîm gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod:
E-bost:
Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Tŷ Glan-yr-Afon
21 Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AD