Neidio i'r prif gynnwy

Edrych ar sut y gall Deallusrwydd Artiffisial chwyldroi gofal iechyd mewn digwyddiad Data Mawr

30 Tachwedd 2023 

Cafodd cyfleoedd cyffrous ar gyfer sut y gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru eu rhannu mewn gweminar Data Mawr heddiw.

Gwelwyd arweinwyr a gweithwyr data proffesiynol o sefydliadau iechyd a gofal ledled Cymru yn y digwyddiad. Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno gan y tîm Dadansoddeg Uwch, sef menter y Rhaglen Adnodd Data Genedlaethol yn DHCW, mewn cydweithrediad â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Yn ogystal â rhannu enghreifftiau lle mae Deallusrwydd artiffisial (AI), dysgu peirianyddol neu ddulliau arloesi eraill wedi helpu i ddatrys problemau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol neu gleifion, aethpwyd i’r afael hefyd â heriau a rhwystrau mabwysiadu AI ar raddfa fwy ac ystyriwyd cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i alluogi mwy o bobl i ddefnyddio AI a dadansoddeg.

Trafododd Mike Emery Prif Swyddog Digidol ac Arloesi GIG Cymru Llywodraeth Cymru a Gareth Ashman, Arweinydd Polisi Deallusrwydd Artiffisial, y strategaeth ddigidol a data ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a gosodwyd y blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.  

Rhannodd cydweithwyr enghreifftiau go iawn o'r heriau a wynebir wrth weithredu arloesi AI, gyda Dr. Muhammed Aslam, Patholegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Rory Clark, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Abertawe a rannodd eu gwybodaeth am ymddygiad dynol a phwysigrwydd deall mabwysiadu dulliau sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Rhannodd Daniel Thorne, Uwch Arbenigwr Cynnyrch ar gyfer yr Adnodd Data Cenedlaethol, sut y gall AI ddod yn bâr ychwanegol o ddwylo i ddadansoddwyr data trwy arddangos GitHub Copilot sef cynorthwyydd codio wedi'i bweru gan AI sy'n helpu datblygwyr trwy awgrymu a chwblhau llinellau cod wrth iddynt ysgrifennu.

Amlygodd James Blackwood, Arweinydd Strategaeth AI a Phortffolio GIG Glasgow a Clyde y gwaith presennol sydd ar y gweill yn y sector iechyd a gofal yn yr Alban mewn perthynas ag AI.

Wrth siarad am y diwrnod, dywedodd Chris Habberley, Arweinydd Dadansoddeg Uwch ar gyfer DHCW: “Mae’r digwyddiad Data Mawr diweddaraf hwn wedi galluogi cydweithwyr o bob rhan o Gymru i arddangos mentrau a gweithrediad llwyddiannus AI, yn ogystal ag ystyried heriau ar gyfer gweithredu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r potensial ar gyfer AI yn gyffrous iawn, a bydd y tîm Dadansoddeg Uwch yn parhau i gefnogi cydweithwyr gyda’u syniadau trawsnewidiol.”

Mae'r digwyddiad 'Data Mawr' hwn yn rhan o gyfres ac yn dilyn ymlaen o'r gynhadledd gyntaf a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality ym mis Mawrth. Mae rhagor o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer 2024, ac os oes gennych unrhyw bynciau yr hoffech dynnu sylw at, cysylltwch â louise.hall3@wales.nhs.uk neu Jennifer.flanagan@wales.nhs.uk