Neidio i'r prif gynnwy

Gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i lansio gwasanaeth presgripsiynau electronig yn llwyddiannus yng Nghymru

 

30ain Tachwedd

Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol yn y GIG ac ym maes diwydiant i ddarparu’r gwasanaeth newydd yn gyflym – dim ond 20 mis ar ôl dechrau.

Mae'r dull partneriaeth hwn wedi sicrhau mai cleifion yn y Rhyl yw'r rhai cyntaf i elwa ar EPS, sy'n galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau yn electronig i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen ffurflen bapur.

Bu DMTP, sy’n cael ei letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn gweithio’n agos gyda GIG Lloegr a ddarparodd y platfform EPS craidd sydd wedi’i ddatblygu i’w ddefnyddio yng Nghymru. Bu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio ochr yn ochr â’r datblygiad hwn, gan ddiweddaru ei systemau i ymgorffori ad-daliadau digidol i fferyllfeydd ac i roi diogelwch cardiau clyfar ar waith.

Dywedodd Fintan Grant, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflenwi Digidol ar gyfer Meddyginiaethau Digidol GIG Lloegr:

 

“Mae GIG Lloegr yn falch o weithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru i sicrhau bod cleifion a chydweithwyr rheng flaen GIG Cymru gyfan yn gallu gwireddu buddion o ddefnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig.

“Mae’r cam mynd yn fyw cyntaf bob amser yn garreg filltir fawr ac mae’n dod yn dilyn ymdrech, uchelgais ac ewyllys sylweddol gan nifer o sefydliadau, timau a chyflenwyr trydydd parti. Rwy’n llongyfarch pawb a fu’n ymwneud â’r cam cyntaf hwn yn y broses gyflwyno.”

 

Mae’r gwaith i ddarparu presgripsiynau electronig yng Nghymru yn gymhleth ac yn cynnwys 16 o gyflenwyr systemau TG fferylliaeth a meddygon teulu. Mae'n ofynnol i bob cyflenwr addasu ei systemau i allu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel yng Nghymru.

I gefnogi’r datblygiad hwn a datblygiadau eraill, sefydlodd DMTP, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru, Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol i ddarparu grantiau i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

 

“Mae'n wych bod gwasanaethau presgripsiynau electronig bellach o fudd uniongyrchol i bobl yng Nghymru, diolch i waith parhaus gan gynnwys Cronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol. 

“Mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â DMTP – ac ein sefydliad ni sydd wedi bod yn rheoli’r gronfa a’r broses ddyfarnu. Mae hyn wedi helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio gwasanaethau presgripsiynau electronig.”

 

System fferyllfa Titan Invatech Health a chyflenwr systemau meddygon teulu EMIS yw'r rhai cyntaf i baratoi eu systemau i fynd ag EPS yn fyw yng Nghymru.

Dywedodd Tariq Muhammad, Prif Swyddog Gweithredol Invatech Health Ltd:

 

Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn yn ein taith tuag at gefnogi datblygu gwasanaethau iechyd yng Nghymru. Rydym mor falch o chwarae ein rhan i helpu i ddod â’r dechnoleg hon i Gymru ac yn edrych ymlaen at sicrhau ei bod ar gael i Gymru gyfan er budd cleifion, fferyllwyr a meddygon fel ei gilydd.”

 

Dywedodd Dr Shaun O'Hanlon, Prif Swyddog Meddygol Grŵp EMIS:

 

“Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddigideiddio presgripsiynau gyda’n technoleg. Rydym wedi gweithio’n agos gyda’r timau yn y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol i roi’r gwasanaeth presgripsiynau electronig newydd ar waith ac rydym yn falch iawn o glywed gan staff practis a chleifion bod y gwasanaeth newydd eisoes yn dechrau arbed amser a darparu gwasanaeth gwell i’r cleifion. 

“Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys technoleg i gefnogi datblygiad pellach a chyflwyno cardiau clyfar i Gymru hefyd, sy’n gam mawr yn y rhaglen digideiddio.”

 

Mae gwasanaeth EPS newydd ar y cam profi byw ar hyn o bryd, cyn ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl o fis Ionawr 2024.

Mae’r gwasanaeth yn dod â buddion i gleifion, practisia, meddygon teulu, fferyllfedd a'r amgylchedd, ac yn arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni papur rhag cael eu hargraffu bob blwyddyn.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol:

 

“Mae'r hyn sydd ar y gweill heddiw yn gyflawniad mawr ac yn gam allweddol ar ein taith i ddigideiddio presgripsiynau a rheoli meddyginiaethau yng Nghymru. Rydym wedi gweld awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan feddygon teulu a feryllwr cymunedol i fabwysiadu hyn ac mae'r cwmnïau meddalwedd wedi bod ar dân eisiau gwneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau cyn gynted â phosibl.

“Mae cefnogaeth cydweithwyr yn GIG Lloegr a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd wedi gwneud cyfraniad mawr, gan gynnwys ymgorffori system ad-dalu digidol i fferyllfeydd a rhoi mesurau diogelwch ar waith.  Mae ein dull cydweithredol, sy’n gosod pobl yn y canol a gweithio’n agos gyda chlinigwyr, cleifion a chyflenwyr diwydiant yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion pawb sy’n ei ddefnyddio.”

 

Mae rhagnodi electronig yn un ran o ymrwymiad ehangach gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno meddyginiaethau digidol ac e-ragnodi ym mhob ysbyty a lleoliad gofal sylfaenol yng Nghymru, drwy’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch ag Alison Watkins, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol ynalison.watkins3@wales.nhs.uk ffôn: 07854 386054

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yw 'gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir.

Dysgwch ragor ar wefan Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol