Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarwyddwr y Meddyginiaethau'n Ddigidol yn cyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol

Mae’r cyfarwyddwr sy’n arwain un o’r newidiadau gofal iechyd digidol mwyaf yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr TG genedlaethol fawreddog.

Mae Rhian Hamer, Cyfarwyddwr Trawsnewid ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (PTGMD), wedi cyrraedd y cam olaf yng nghategori Unigolyn Ysbrydoledig gwobrau blynyddol Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain.

Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at gyflymder newid technolegol ac yn cydnabod ymdrechion y bobl sy'n creu byd gwell trwy TG.

Dywedodd Rhian:
 

“Mae’n anrhydedd enfawr i mi gyrraedd y rhestr fer ac mae’n rhaid i mi ddiolch i’m tîm sydd wedi croesawu a mabwysiadu dull gwahanol o ddarparu gwasanaethau digidol sy’n rhoi profiad y defnyddiwr wrth wraidd y newid.”
 

Gan arwain y newid o ragnodi ar bapur i ragnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau’n ddigidol yng Nghymru, mae Rhian yn goruchwylio newid sylweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i gleifion, y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Bydd y gwaith yn gwella diogelwch, effeithlonrwydd ac yn darparu gwasanaethau gwell. Mae ei gwaith yn rhychwantu pedair rhaglen ar wahân, wedi’u dwyn ynghyd fel un Portffolio, gan gyflwyno:

  • presgripsiynau electronig a anfonir yn uniongyrchol gan y meddyg teulu i'r fferyllfa o ddewis y claf
  • rhoi rhagnodi electronig a gweinyddu meddyginiaethau ar waith ym mhob ysbyty yn GIG Cymru
  • y Cofnod Meddyginiaethau a Rennir cyntaf erioed a fydd yn golygu bod yr holl wybodaeth am feddyginiaeth ar gyfer claf mewn un lle ac y gellir ei chyrchu'n hawdd pan fo angen
  • nodweddion yn Ap newydd GIG Cymru sy’n ei gwneud hi’n haws i bobl reoli eu meddyginiaethau

Er bod y PTGMD wedi’i sefydlu ers 18 mis yn unig, mae eisoes yn profi ei werth – wrth symud i ragnodi cwbl ddigidol ledled Cymru.

Dywedodd Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y PTGMD:
 

“Rydym yn hynod o falch bod Rhian yn y ras i ennill y wobr hon. Mae ei rhagoriaeth o ran deall pobl yn ogystal â thechnoleg wedi galluogi rhaglen gymhleth i ddatblygu'n gyflym. Mae ei harweinyddiaeth eithriadol yn ysbrydoli unigolion a rhaglenni digidol eraill i rannu syniadau, i fod yn uchelgeisiol a chreu cyfleoedd i ffynnu. Byddai hi’n enillydd teilwng.”
 

Cynhelir rownd derfynol y gwobrau yn Llundain ar 8 Tachwedd.

Mwy o wybodaeth am y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.