Neidio i'r prif gynnwy

Practis Meddyg Teulu i ddefnyddio Ceisiadau radioleg electronig am y tro cyntaf

Medi 18fed 2023

Mae prosiect peilot ar gyfer ceisiadau radioleg electronig mewn practisiau meddyg teulu wedi mynd yn fyw yn llwyddiannus mewn practis yn Ne Cymru. Mae ceisiadau radioleg gan ofal sylfaenol yn dilyn llwyddiant ceisiadau prawf patholeg electronig sydd bellach yn cael eu defnyddio gan dros 350 o bractisiau ledled Cymru.

Mae ceisiadau electronig yn disodli'r ddibyniaeth ar bapur a llythyrau mewn practisiau, a rhwng practisiau ac ysbytai.  Mae'n arbed amser ac arian, ac yn cryfhau diogelwch. Yn hytrach na gofyn am brawf gwaed, neu brawf radioleg, trwy ffurflenni papur, neu ar ffurf papur eraill, gall y meddyg teulu lenwi e-ffurflen sy’n anfon y cais yn uniongyrchol i’r adran radioleg, ac yna derbyn y canlyniadau’n ddigidol.

Mae’r tîm y tu ôl i’r gwaith ceisiadau electronig am brofion pellach yn monitro’r gwasanaeth radioleg o’r practis peilot cyntaf cyn ei lansio i ragor o bractisiau.  Ar ôl adolygiad a datblygiadau pellach, bydd y gwasanaeth ar gael i bob practis yng Nghymru. Mae cynlluniau tymor hwy ar gyfer ceisiadau electronig am brofion mewn gofal sylfaenol i ehangu i feysydd eraill, gan gynnwys histopatholeg a gynaecoleg.

Mae nifer y ceisiadau am brawf patholeg a wnaed yn electronig dros y 12 mis diwethaf wedi cyrraedd bron i 2.9 miliwn.