Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnu cyllid hanfodol i dri chyflenwr system fferylliaeth gymunedol ddigidol arall i ddatblygu gwasanaeth rhagnodi electronig yng Nghymru

Medi 7 2023

Mae’r Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol (CPSIF), a sefydlwyd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) yng Nghymru, wedi rhoi tri grant pellach i gyflenwyr system fferylliaeth gymunedol ddigidol, sy'n golygu bod pum sefydliad wedi elwa arni hyd yma.

Egton Medical Information Services (EMIS), Camascope a Clanwilliam yw’r cwmnïau diweddaraf sydd wedi derbyn grantiau ac sydd bellach yn gallu dechrau datblygu eu systemau.

Maent yn ymuno â PharmacyX a TITAN PMR a dderbyniodd grantiau yn y rownd ariannu gyntaf.

Bydd y grantiau yn helpu cyflenwyr i ddatblygu eu systemau i ddefnyddio gwasanaeth rhagnodi electronig a derbyn presgripsiynau yn ddigidol yn lle ar bapur.

Bydd hefyd yn cefnogi’r cyflenwyr i gyflwyno newidiadau arloesol i’w systemau a fydd yn arwain at weinyddu’n ddi-bapur ac integreiddio ag ap newydd GIG Cymru pan gaiff ei lansio.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, “Mae hwn yn gynnydd gwych ac yn dangos awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan gyflenwyr i ddatblygu eu systemau i fod yn barod ar gyfer EPS cyn gynted â phosibl. Edrychwn ymlaen at gael ceisiadau gan fwy o gyflenwyr yn y rownd ariannu nesaf fel y gallwn gyflymu’r datblygiadau mewn fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru.”

Bydd cyflwyno EPS mewn gofal sylfaenol yng Nghymru yn gwneud y broses o ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.

Mae’r gwaith yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n cael ei letya gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae Cronfa Arloesedd y System Fferylliaeth Gymunedol ar gael i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol ddigidol yng Nghymru. Y dyddiad cau nesaf ar gyfer ceisiadau yw 5 Hydref 2023. Mae’r gronfa’n parhau i fod ar agor i geisiadau tan fis Hydref 2024, er bod y trefnwyr yn cadw’r hawl i’w chau’n gynnar pe bai’r holl gyllid yn cael ei ddyrannu.

Dan arweiniad Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru mewn partneriaeth â’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r gronfa’n rhoi cyfle i gynnig am dair haen:

  • Haen Un: Datblygu a gweithredu'r newidiadau angenrheidiol i systemau fferylliaeth cymunedol i alluogi EPS mewn fferyllfa yng Nghymru trwy gofnod meddyginiaeth claf sicr. Rhaid cwblhau'r haen hon yn llwyddiannus cyn y gall cyflenwyr wneud cais am gyllid haenau dau a thri.
  • Haen Dau: Galluogi prosesau di-bapur mewn fferyllfeydd cymunedol (ni fydd hyn yn effeithio ar hawl claf i ofyn am bresgripsiwn papur os yw’n dymuno).
  • Haen Tri: Gallu anfon hysbysiadau gwthio i Ap GIG Cymru i roi gwybod bod meddyginiaethau unigolyn wedi’u paratoi a’u bod yn barod i’w casglu, ynghyd â lleoliad y fferyllfa a’i horiau agor.

Mae’r Gronfa yn agored i geisiadau gan fusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU sydd ar hyn o bryd yn cyflenwi, neu sydd â’r potensial i gyflenwi, gwasanaethau digidol i fferyllfeydd yng Nghymru. Dim ond gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r nodau a eglurir ym mhob haen sydd o fewn cwmpas y gronfa. Mae pob haen ar gyfer uchafswm rhagddiffiniedig sydd ar gael, ac mae hyd at 100% o'r swm hwn ar gael ar gyfer costau refeniw â thystiolaeth ar gyfer gwaith sy'n ymwneud â gofynion yr haen honno. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £111,562.50 i ddatblygu eu systemau fel y gall fferyllfeydd yng Nghymru ddefnyddio EPS.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod eu cynlluniau'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd a'r cwmpas a amlinellir yn y ddogfen ganllaw gyhoeddedig, sydd ar gael ar wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.

Dywedodd Cari-Anne Quinn, Prif Swyddog Gweithredol Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru: Mae’r cyllid hwn yn garreg filltir bwysig yn yr ymdrech barhaus i foderneiddio systemau fferylliaeth ddigidol yng Nghymru. Mae'n galonogol gweld grantiau ychwanegol yn cael eu dyrannu wrth i'r rhaglen ennill momentwm. Mae blaenoriaethu datblygiad y datrysiadau mwyaf effeithiol yn hanfodol i lwyddiant y gwaith trawsnewid hwn, ac rydym yn estyn croeso cynnes i bob cyflenwr a all gyfrannu at ein cenhadaeth uchelgeisiol ond hanfodol o sefydlu gwasanaeth rhagnodi electronig yng Nghymru."

I gael gwybod mwy am y Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol ac i wneud cais am grant, ewch i wefan Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.