Neidio i'r prif gynnwy

Cyrraedd carreg filltir allweddol yn y cynllun i ddarparu Gwasanaeth Rhagnodi Electronig yng Nghymru

10fed Awst 2023

Mae carreg filltir gyffrous wedi’i chyrraedd yn y cynllun i newid y ffordd y caiff presgripsiynau eu rhoi ym maes gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae profion byw ar fin dechrau ar Wasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) newydd a fydd yn golygu bod presgripsiynau'n cael eu hanfon yn electronig o bractis meddyg teulu i'r fferyllfa o ddewis claf, heb fod angen presgripsiwn papur.

Bydd symud oddi wrth broses bapur i wasanaeth digidol yn dod â manteision i gleifion, meddygfeydd, fferyllfeydd a’r amgylchedd, gan arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni papur bob blwyddyn.

Pan fydd wedi’i gwblhau, bydd y Gwasanaeth Rhagnodi Electronig ar gael ledled Cymru. Ond yn ystod cam cyntaf y gwaith profi, a fydd yn dechrau’n fuan, caiff ei gynnig i gleifion ym mhractis meddygon teulu Canolfan Feddygol Lakeside a fferyllfa gymunedol Wellington Road yn y Rhyl, er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r gofynion technegol a diogelwch angenrheidiol cyn i'r broses gyflwyno ehangach ddechrau.

Mae'r gwaith yn rhan allweddol o’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol sy’n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn sicrhau manteision dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Uwch Swyddog Cyfrifol y Rhaglen EPS Gofal Sylfaenol:

Rwyf wrth fy modd â'r cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y broses o drosglwyddo presgripsiynau'n electronig ar gael ym mhobman yng Nghymru.

Mae gallu dechrau profion byw ar wasanaeth EPS yn garreg filltir bwysig ac rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr mewn fferyllfeydd a phractisiau meddygon teulu, ynghyd â holl gyflenwyr systemau fferylliaeth a systemau meddygon teulu yng Nghymru a’n cydweithwyr yn GIG Lloegr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i wneud i hyn ddigwydd.

Rydym yng nghamau cynnar y daith i gyflwyno EPS yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at allu dechrau cyflwyno’r gwasanaeth fesul cam ledled Cymru cyn diwedd y flwyddyn.”

Bydd cyflwyno EPS yn gwneud y broses rhagnodi, dosbarthu ac ad-dalu yn fwy diogel, yn fwy effeithlon a chyfleus i gleifion a staff gofal iechyd:

  • Ni fydd gofyn i gleifion ymweld â'r feddygfa i gasglu ffurflen bresgripsiwn mwyach 
  • Bydd meddygon teulu a rhagnodwyr eraill yn gallu llofnodi presgripsiynau’n ddigidol, gan ryddhau amser ar gyfer gofal cleifion. 
  • Rheoli meddyginiaethau a phresgripsiynau rheolaidd yn fwy diogel 
  • Bydd fferyllfeydd a fferyllwyr yn gallu lleihau eu defnydd o bapur 

Er mwyn galluogi Gwasanaeth Rhagnodi Electronig i gael ei ddarparu yng Nghymru, mae darparwyr systemau TG meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol yn datblygu eu systemau i allu anfon a derbyn trosglwyddo presgripsiynau electronig yn ddiogel. Mae'r gwaith hwn eisoes ar y gweill ac mae'r ddwy system gyntaf yn rhan o'r profion cynnar ar y gwasanaeth.

Dywedodd Prif Swyddog Fferyllol Cymru, Andrew Evans:

“Mae’r rhaglen EPS yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno rheolaeth gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol ac e-Ragnodi ym mhob ysbyty a lleoliad gofal sylfaenol yng Nghymru drwy’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol.

Bydd y gwaith profi sy'n dechrau cyn bo hir yn helpu i sicrhau bod llawer mwy o gleifion a chlinigwyr yn gweld manteision EPS y flwyddyn nesaf wrth i'r rhaglen gael ei chyflwyno.  Mae’n hollbwysig bod y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno’n ofalus ac yn ddiogel, mae symud i brofion byw ar gyfer EPS yn gam arwyddocaol i’r rhaglen.”

*Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Alison Watkins, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn alison.watkins3@wales.nhs.uk

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yw 'gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.'

Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir. Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n lletya DMTP.

Dysgwch ragor ar wefan Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol