Neidio i'r prif gynnwy

Lansiad y gwasanaeth rhagnodi electronig cyntaf yng Nghymru

Cleifion yn y Rhyl yw'r rhai cyntaf yng Nghymru i elwa ar wasanaeth rhagnodi electronig newydd (EPS), sy'n galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau yn ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb fod angen presgripsiwn papur.

Mae'r gwasanaeth newydd, sy'n cael ei lansio'n swyddogol heddiw, yn gwneud rhagnodi a dosbarthu meddyginiaethau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon.

Am y tro cyntaf, nid oes angen i feddygon teulu Cymru argraffu ac yna llofnodi ffurflen bresgripsiwn papur gwyrdd i'w rhoi i'r claf na’i chasglu gan y fferyllfa o'r practis meddyg teulu. Yn lle hynny, maent yn llofnodi'n electronig ac yn anfon y presgripsiwn yn syth o'r cyfrifiadur yn y practis meddyg teulu i'r system TG a ddefnyddir yn fferyllfa'r claf.

Mae lansio presgripsiynau electronig yng Nghymru yn ganlyniad i 20 mis o waith gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP), sydd wedi troi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddigideiddio presgripsiynau yn realiti.

Mae’r gwasanaeth yn dod â buddion i gleifion, practisiau meddygon teulu, fferyllfeydd a'r amgylchedd, ac yn arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni papur rhag cael eu hargraffu bob blwyddyn.

Gellir olrhain presgripsiynau o'r practis meddyg teulu i'r fferyllfa ac ni fydd angen i gleifion ymweld â'r practis meddyg teulu mwyach i gasglu ffurflen bresgripsiwn rheolaidd gan y bydd yn cael ei hanfon yn uniongyrchol i'r fferyllfa o’i dewis. Bydd hefyd yn symleiddio’r broses ad-dalu ar gyfer fferyllfeydd cymunedol.

Mae’r gwasanaeth newydd mewn cyfnod profi byw ar hyn o bryd, cyn ei gyflwyno’n raddol ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl o fis Ionawr 2024.

Wrth ymweld â’r safleoedd profi byw yng Nghanolfan Feddygol Lakeside y Rhyl a Fferyllfa Ffordd Wellington, dywedodd Eluned Morgan MS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rydym ar ddechrau gwaith trawsnewid digidol cyffrous a fydd yn newid yn llwyr y ffordd y caiff presgripsiynau eu rheoli ym maes gofal sylfaenol, gan symleiddio proses nad yw wedi newid ers degawdau.

“Bydd presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar feddyginiaethau am eu llesiant, felly mae technoleg arloesol o’r fath yn hanfodol ar gyfer darparu gofal iechyd modern.”

Dywedodd Shafraz Mohideen, Rheolwr Gweithrediadau Canolfan Feddygol Lakeside:

“Gallwn eisoes weld bod hyn yn ddatblygiad trawsnewidiol. Bydd ein meddygon teulu yn gallu rhagnodi meddyginiaethau yn gyflymach ac yn fwy diogel, ac fe fydd hyn yn rhoi mwy o amser iddynt gyda’u cleifion. Bydd hefyd yn helpu cleifion gan na fydd angen iddynt ymweld â’r practis meddyg teulu i gasglu presgripsiynau rheolaidd.”

Dywedodd Charlotte Smith, Fferyllydd Arweiniol yn Fferyllfa Ffordd Wellington:

“Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous yr ydym wedi bod yn aros yn eiddgar amdano Bydd yn ei gwneud yn llawer haws i’n cleifion a’n staff gan y gallwn olrhain y presgripsiynau gyda’r system newydd a gwirio eu statws ar-lein.”

Dywedodd Barbara McEvoy, claf yng Nghanolfan Feddygol Lakeside a fydd yn defnyddio EPS, “Doeddwn i ddim yn gallu credu pa mor hawdd ydyw. Dywedais wrth staff y fferyllfa fy mod eisiau defnyddio e-bresgripsiynau a gwnaethant y gweddill. Nid oedd angen i mi ddefnyddio cyfrifiadur na llenwi ffurflen ar-lein. Mae hyn yn mynd i fod yn ddefnyddiol iawn ac fe fydd yn bendant yn helpu cleifion.”

Mae symud o ddefnyddio papur i broses ddigidol yn gymhleth, ac mae'n dibynnu ar feddygon teulu a chyflenwyr TG fferyllfeydd cymunedol yn ymgorffori ymarferoldeb e-ragnodi yn eu systemau i allu anfon a derbyn presgripsiynau electronig yn ddiogel.

I gefnogi’r datblygiad hwn, sefydlodd DMTP, mewn partneriaeth â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru, Gronfa Arloesi System Fferylliaeth Gymunedol i ddarparu grantiau i gyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol yng Nghymru.

Mae hefyd wedi gweithio ar y cyd â phartneriaid allweddol gan gynnwys GIG Lloegr, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, meddygon teulu, fferyllfeydd a chyflenwyr diwydiant.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol:

“Mae'r hyn sydd ar y gweill heddiw yn gyflawniad mawr ac yn garreg filltir allweddol ar ein taith i ddigideiddio presgripsiynau a rheoli meddyginiaethau yng Nghymru. Rydym wedi gweld awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan feddygon teulu a fferyllwyr cymunedol i fabwysiadu hyn ac mae'r cwmnïau meddalwedd wedi bod ar dân eisiau gwneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau cyn gynted â phosibl.

“Mae cefnogaeth cydweithwyr yn GIG Lloegr a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd wedi gwneud cyfraniad mawr, gan gynnwys ymgorffori system ad-dalu digidol i fferyllfeydd a rhoi mesurau diogelwch ar waith. Mae ein dull cydweithredol, sy’n gosod pobl yn y canol a gweithio’n agos gyda chlinigwyr, cleifion a chyflenwyr diwydiant yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth sy’n diwallu anghenion pawb sy’n ei ddefnyddio.

Mae rhagnodi electronig yn rhan o ymrwymiad ehangach gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno meddyginiaethau digidol ac e-ragnodi ym mhob ysbyty a lleoliad gofal sylfaenol yng Nghymru, drwy’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol, a letyir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch ag Alison Watkins, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn alison.watkins3@wales.nhs.uk ffôn: 07854 386054

Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yw 'gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ddigidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir. Dysgwch ragor am y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yma