Neidio i'r prif gynnwy

Llongyfarchiadau i'n tîm DSPP am gael eu henwebu am wobr!

9fed Tachwedd 2023

Mae’r Rhaglen Gwasanaethau Digidol ar gyfer Cleifion a’r Cyhoedd (DSPP) a Kainos wedi cael eu henwebu am y Wobr Prosiect Gofal Iechyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing 2023 am waith Arloesol ar Ap GIG Cymru.

Roedd y rhaglen DSPP a’n cydweithwyr datblygu yn Kainos wrth eu bodd o gael eu henwebu’n ddiweddar yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing 2023. Cyrhaeddodd DSPP a Kainos rownd derfynol gwobr Prosiect Gofal Iechyd y Flwyddyn am ein cyfraniad i’r sector gofal iechyd drwy ddatblygu Ap GIG Cymru.

Bydd Ap GIG Cymru, a ddatblygwyd gan DSPP, yn chwyldroadol o ran mynediad a darpariaeth iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’r cymhwysiad symudol a’r wefan bwrdd gwaith arloesol yn cynnig amrywiaeth eang o nodweddion sydd wedi’u cynllunio i wella mynediad at wasanaethau’r GIG a helpu cleifion a’r cyhoedd i reoli eu hiechyd a’u gofal unrhyw bryd, unrhyw le.

Mae enwebiad Ap GIG Cymru yn adlewyrchu ymroddiad DSPP ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru i ddefnyddio technoleg ddigidol i wella darpariaeth gwasanaethau iechyd a gofal i gleifion a’r cyhoedd yng Nghymru. Roedd yr enwebiad am wobr yn cydnabod ymdrechion y rhaglen DSPP a’r cydweithio â Kainos a’r holl gynrychiolwyr cleifion a’r cyhoedd a gyfrannodd at ddod ag Ap GIG Cymru yn fyw.

 

Dywedodd Matt Cornish, Cyfarwyddwr Rhaglen DSPP:

“Mae enwebiad y rhaglen DSPP am y Prosiect Gofal Iechyd y Flwyddyn yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing yn anrhydedd aruthrol i Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Mae'n amlygu ein hymrwymiad i hyrwyddo gofal iechyd drwy arloesi digidol. Rydym yn gyffrous i gael ein cydnabod ochr yn ochr ag arweinwyr eraill yn y diwydiant, ac mae’r enwebiad hwn yn ein hysgogi i barhau i wthio ffiniau ym myd iechyd digidol er budd pobl Cymru.”

Mae Gwobrau Diwydiant TG y DU BCS a Computing yn ein hatgoffa o’r rôl hanfodol y mae technoleg yn ei chwarae wrth hybu iechyd a gofal, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i arloesi datrysiadau digidol a fydd yn parhau i chwyldroi’r sector iechyd a gofal.