Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Sgrinio Coluddion yn ehangu i gynnwys pobl 51-54 oed

10fed Hydref 2023

Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi ehangu’r Rhaglen sgrinio coluddion yng Nghymru i oedrannau iau. Mae'r system yn gymhwysiad diogel ar y we sy'n cefnogi'r broses sgrinio trwy ddethol pobl o Gymru i gael eu sgrinio.

Dechreuodd Sgrinio Coluddion Cymru wahodd pobl 51, 52, 53 a 54 oed o’r 4 Hydref 2023 ymlaen am y tro cyntaf i gael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn. Mae’n dilyn gostwng yr oedran o 60 i 58 ym mis Hydref 2021 ac o 58 i 55 ym mis Hydref 2022.  Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno'n raddol i'r grŵp oedran cymwys newydd yn ystod y 12 mis nesaf.

Canser y coluddyn yw'r ail achos fwyaf cyffredin sy’n achosi marwolaeth o ganlyniad i ganser yng Nghymru. Mae dros 2,000 o bobl yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn yng Nghymru, ac mae’n arwain at dros 900 o farwolaethau. Mae tystiolaeth yn dangos bod sgrinio pobl yn iau yn galluogi canfod mwy o ganserau'r coluddyn yn gynharach, pan fo triniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol a phan fo tebygolrwydd goroesi yn well.

Y prawf sgrinio a ddefnyddir yw'r Prawf Imiwnocemegol Ysgarthol (FIT) hynod effeithiol, sy'n syml i bobl ei ddefnyddio gartref, gan ofyn am un sampl baw yn unig.  Mae'r prawf yn edrych am olion bach iawn o waed (haemoglobin) yn y sampl, sy'n rhy fach i'w gweld ond a all fod yn arwydd o ganser y coluddyn a pholypau anfalaen. Yn ogystal ag ehangu’r rhaglen i gynnwys pobl 51 oed, bydd Sgrinio Coluddion Cymru hefyd yn gostwng lefel trothwy positif y FIT sgrinio o 150µg o haemoglobin/g ar gyfer ysgarthion i 120µg. Bydd y newid hwn yn cynyddu sensitifrwydd y prawf sgrinio ac yn arwain at ragor o ganserau, polypau ac adenomâu yn cael eu canfod trwy sgrinio.

Dywedodd Steve Court, Pennaeth Sgrinio Coluddion Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rwy’n falch iawn ein bod yn ehangu’r rhaglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i gynnwys y rhai rhwng 51 a 54 oed yng Nghymru."

Gall sgrinio’r coluddyn helpu i ddod o hyd i ganser y coluddyn yn gynnar, pan nad oes gennych unrhyw symptomau.  Mae canfod yn gynnar mor bwysig gan y bydd o leiaf 9 o bob 10 o bobl yn goroesi canser y coluddyn os caiff ei ganfod a'i drin yn gynnar. Mae sgrinio'r coluddyn hefyd yn canfod ac yn arwain at dynnu polypau cyn-ganseraidd a allai ddatblygu'n ganser pe baent yn cael eu gadael yn y coluddyn.

Bydd y sawl sy’n gymwys yn cael pecyn profi a gwahoddiad drwy’r post dros y 12 mis nesaf Mae'r pecyn profi gartref yn hawdd i'w gwblhau ac yn hawdd i’w anfon i'n labordy i'w ddadansoddi.

2Byddwn yn annog pawb sy’n derbyn gwahoddiad i dderbyn eu cynnig. Fe allai achub bywydau.”