Neidio i'r prif gynnwy

Mae tîm Sicrwydd Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GIG Cymru 2023.

2il Awst 2023

Mae’r gwobrau yn dathlu rhagoriaeth mewn iechyd a gofal ledled Cymru.

Mae’r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori ar gyfer cyfoethogi llesiant, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal.

Nod y prosiect sydd wedi’i enwebu yw lleihau lefel y llwyth gwaith ychwanegol ar staff a lleihau straen sy'n gysylltiedig â gwaith ar draws y sefydliad tra'n cynnal safonau iechyd a gofal.

Arweiniodd y prosiect sef - cynyddu effeithlonrwydd archwilio ac ysbrydoli archwilwyr mewnol y dyfodol – at ostyngiad o 67% yn nifer yr archwiliadau mewnol a gynhelir ar draws DHCW.

Mae disgwyl i'r enillwyr gael eu cyhoeddi mewn seremoni yng Nghaerdydd ddydd Iau, 26 Hydref.

Dywedodd Paul Evans, Pennaeth Sicrwydd Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol DHCW:

“Mae’r newidiadau a roddwyd ar waith nid yn unig yn dod â buddion iechyd a llesiant clir i’r gweithlu, ond hefyd yn cynnig cyfleoedd datblygu gyrfa oherwydd gall unrhyw aelod o staff ar draws y sefydliad gofrestru. Ffurfiwyd y tîm ym mis Mai 2021 ac mae’n esblygu’n gyson.  Mae’r enwebiad hwn yn dyst i’w gwaith caled a’u cydweithrediad.”

Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Iechyd a Gofal Digidol Cymru:

“Rwy’n falch iawn o weld y tîm Sicrhau Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau GIG Cymru. Mae’r enwebiad hwn yn dangos ymroddiad a gwaith caled y tîm i wella effeithlonrwydd archwilio ac ysbrydoli archwilwyr mewnol y dyfodol.”

Bydd panel o feirniaid o arbenigwyr y GIG yn cymryd rhan mewn ymweliadau rhithwir gyda phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i ddysgu mwy am eu prosiectau cyn cyhoeddi’r enillwyr.

Mae yna wyth categori i gyd, gyda 24 o brosiectau wedi cyrraedd y rownd derfynol. Mae’r gwobrau’n cydnabod y ffyrdd y gall syniadau arloesol ar gyfer newid wneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion, sefydliadau a’r system iechyd a gofal ehangach.

Mae'n gyfle i arddangos timau gweithgar ac ysbrydoledig sy'n ymdrechu i wella arferion gofal iechyd a gofal cleifion ledled Cymru.

Dywedodd y trefnwyr fod yna nifer “aruthrol” o gyflwyniadau eleni, sy’n amlygu’r gwaith gwella anhygoel sy’n digwydd ar draws GIG Cymru.

Dywedodd un o’r beirniaid:

“Mae wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig darllen cymaint o gynigion gwych gan dimau a sefydliadau ar draws ein GIG yng Nghymru. Roedd yn fraint cael yr amser i ddewis y prosiectau ar gyfer y rhestr fer ac i weld manylion y gwelliannau i’r gofal rydym yn ei ddarparu i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth.”

I gael rhestr lawn o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol, ewch i www.gwobraugig.cymru.