Ddydd Mercher 26 Hydref, cynhelir sesiwn graffu ar y cyd yn y Senedd ar Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a thrawsnewid digidol ar draws GIG Cymru.
Mae Marilyn Bryan-Jones, a benodwyd yn Aelod Bwrdd Annibynnol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ddiweddar, wedi ennill gwobr yng Ngwobrau Cymunedol Cenedlaethol Hanes Pobl Dduon 2022 am ei chyfraniadau at gydraddoldeb hiliol a chynhwysiant.
Mae tîm caffael DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau GO Cymru, sy’n dathlu cyflawniadau caffael ar draws sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector Cymru.
Creodd y Ganolfan Ragoriaeth Microsoft GIG Cymru newydd fodel gweithredu brys ar gyfer GIG 111 Cymru, ar ôl i systemau TG un o’i gyflenwyr orfod cael eu cau, yn dilyn ymosodiad seiber ledled y DU.
Mae’r System Rheoli Gwybodaeth Sgrinio Coluddion (BSIMS) a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cael ei defnyddio i ehangu’r Rhaglen sgrinio coluddion i bobl 55, 56 a 57 oed.
Yr wythnos diwethaf, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd ddigidol ar y cyd gyda Cwmpas a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Roedd yn archwilio sut y gall y sector cyhoeddus sicrhau cynhwysiant mewn arloesi digidol yn llawer gwell a hynny drwy weithio gyda a thrwy’r sector gwirfoddol.
Mae IGDC wedi arwyddo Siarter Cynhwysiant Digidol yn yr Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf a gynhaliwyd er mwyn dod â’r sectorau iechyd, gofal a gwirfoddol ynghyd i gydweithio ar sut gall offer ddigidol gefnogi a galluogi cynhwysiant yng Nghymru.
Bydd Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, a Stuart Morris, Cyfarwyddwr Digidol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn arwain gweminar #LlesiantiGymru ar bwnc trawsnewid digidol.
Mae DHCW wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Iechyd Meddwl a Llesiant Cymru.
Mae tîm Rheoli Gwasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd rownd derfynol categori tîm y flwyddyn yng Ngwobrau Rheoli Gwasanaethau Proffesiynol 2022.
Gyda'r tristwch dyfnaf mae pob un ohonom yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn talu teyrnged i'r Frenhines Elizabeth II a bywyd a ymroddwyd i'n cenedl am 70 mlynedd.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Diwydiant TG y DU 2022 gan y BCS.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynnal diwrnod agored recriwtio rhithwir ddydd Gwener 16 Medi 2022 i recriwtio arweinwyr technegol a datblygwyr ar gyfer Canolfan Ragoriaeth Microsoft 365 genedlaethol GIG Cymru.
Bydd cleifion yng Nghymru sydd angen gofal deintyddol arbenigol yn parhau i olrhain eu hatgyfeiriadau drwy Wasanaeth Rheoli Atgyfeiriadau Deintyddol GIG Cymru yn dilyn contract newydd rhwng Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) a darparwr y system atgyfeirio, RMS Ltd.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch i gyhoeddi penodiad Sam Hall heddiw i rôl Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl.
Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) DHCW ar gyfer 2022 – 2025 yn nodi ein prif flaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo a darparu diwylliant o gofleidio newid drwy gymhwyster newydd a fydd yn uwchsgilio ac yn grymuso staff.
Mae deunyddiau canllaw newydd sy'n esbonio pam mae GIG Cymru yn casglu gwybodaeth am gleifion a sut y gellir defnyddio'r data hyn bellach ar gael ar wefan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW).
Mae system gyfrifiadurol wedi diffodd yn sylweddol a ddefnyddir i atgyfeirio cleifion o GIG 111 Cymru at ddarparwyr meddygon teulu y tu allan i oriau. Defnyddir y system hon gan fyrddau iechyd lleol i gydlynu’r gwasanaethau hyn i gleifion. Mae'r toriad parhaus yn sylweddol ac wedi bod yn bellgyrhaeddol, gan effeithio ar bob un o'r pedair gwlad yn y DU. Darllen mwy.
Cynhelir yr uwchgynhadledd ddigidol gyntaf i ganolbwyntio ar sut y gall GIG Cymru a’r sectorau gwirfoddol gydweithio i lunio ein dyfodol digidol ddydd Mawrth 27 Medi 2022.