Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Blynyddol Cyntaf o'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau'n Ddigidol

8fed Ionawr 2024

Mae’r Adolygiad Blynyddol cyntaf wedi’i gyhoeddi heddiw (08 Ionawr, 2024) gan y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) i nodi’r cynnydd yn un o’r newidiadau mwyaf i ragnodi, dosbarthu a rhoi meddyginiaethau ers degawdau.

Bydd ffyrdd digidol o weithio yn trawsnewid y profiad i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy ddisodli’r prosesau ar bapur a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn ysbytai, practisiau meddygon teulu a fferyllfeydd cymunedol gyda datrysiadau digidol di-bapur mwy diogel a mwy effeithlon.

Crëwyd DMTP gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2022 yn dilyn adolygiad annibynnol o brosesau rhagnodi. Lluniwyd cynllun meddyginiaethau digidol uchelgeisiol i Gymru ac, ers ei ffurfio lai na dwy flynedd yn ôl, mae DMTP wedi symud ymlaen yn gyflym â’r gwaith sydd ei angen i droi’r cynllun yn gamau gweithredu.

Ym mis Tachwedd 2023, cyrhaeddwyd carreg filltir allweddol pan anfonwyd y presgripsiwn electronig cyntaf yng Nghymru o Ganolfan Feddygol Lakeside i Fferyllfa Ffordd Wellington yn y Rhyl. Mae defnyddio’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yn galluogi i feddygon teulu anfon presgripsiynau’n electronig i ddewis y claf o fferyllfa gymunedol, heb fod angen ffurflen bapur. Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno ledled Cymru mor gyflym a diogel â phosibl o ddechrau 2024.

Mae DMTP hefyd wedi gwneud cynnydd mawr yn ei waith i ddarparu Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau (ePMA) yn electronig ym mhob ward ym mhob ysbyty yng Nghymru; datblygu Cofnod Meddyginiaethau a Rennir; ac ymarferoldeb meddyginiaethau yn Ap GIG Cymru.

Y nod yw sicrhau bod ffyrdd digidol newydd o weithio yn sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion a’r cyhoedd ledled Cymru.

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, Uwch Berchennog Cyfrifol DMTP: “Mae meddyginiaethau’n rhan hanfodol bwysig o ofal iechyd, ac ar ryw adeg maent yn rhan o fywyd bron pob person sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Ac eto, nid yw’r ffordd yr ydym yn rheoli meddyginiaethau, gan ddefnyddio prosesau ar bapur yn bennaf, wedi newid yn sylweddol ers i’r GIG gael ei sefydlu ym 1948.

“Rwy’n hyderus y bydd y gwaith yr ydym yn ei wneud yn cael effaith sylweddol. Rwy’n hynod falch o’n cynnydd ac wrth i chi ddarllen yr adolygiad hwn, gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gwaith trawsnewid yr ydym yn ei gyflawni.”

Er mwyn sicrhau bod pobl yn parhau i fod wrth wraidd ei ffocws, mae DMTP wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid gan gynnwys Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru, Pwyllgor Ymarfer Cyffredinol Cymru, y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS), Grŵp Sicrwydd Cleifion a’r Cyhoedd, Cymunedau Digidol Cymru a Chynghrair Cynhwysiant Digidol Cymru. Rydym hefyd yn cydweithio’n agos â’r holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau ledled Cymru ac rydym wedi ymweld ag ysbytai, practisiau meddygon teulu a fferyllfeydd i glywed gan staff a chael gwybodaeth a chipolwg ar eu hanghenion.

Bydd symud tuag at weithio'n ddi-bapur hefyd o fudd i'r amgylchedd. Bydd yn lleihau'n sylweddol y 40 miliwn o bresgripsiynau papur sy'n cael eu hargraffu ar hyn o bryd mewn lleoliadau gofal sylfaenol bob blwyddyn a bydd yn arbed cannoedd o filoedd o siartiau meddyginiaeth ysbyty sy’n cael eu defnyddio a’u ffeilio bob blwyddyn.

Darllenwch yr Adolygiad Blynyddol. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth drwy wylio ein fideo byr:

 

 

Gwybodaeth Bellach

Cysylltwch â DMTP.Comms@wales.nhs.uk

Neu: Alison Watkins, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu, Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn alison.watkins3@wales.nhs.uk Ffôn: 07854 386054

 

Darganfyddwch ragor a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr