Neidio i'r prif gynnwy

Boots yw'r ail gyflenwr system fferyllfa i brofi'r system presgripsiynau electronig yng Nghymru

10fed Ionawr 2024

Boots yw’r ail gyflenwr systemau fferyllol i ddatblygu a phrofi’r dechnoleg sydd ei hangen i gefnogi’r gwaith o ddarparu Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig (EPS) yng Nghymru.

Mae prif manwerthwr iechyd a harddwch y DU wedi gwneud newidiadau i’w system i’w alluogi i fod yn barod i dderbyn presgripsiynau’n ddigidol yn hytrach nag ar bapur. Mae’r system, sydd bellach wedi’i datblygu i baratoi fferyllfeydd Boots yng Nghymru ar gyfer EPS, newydd ddechrau’r cyfnod profi. Y bwriad yw cwblhau y broses hon yn gynnar yn 2024.

Os bydd y profion yn llwyddiannus, bydd y system yn cael ei chyflwyno yn siopau Boots ledled Cymru fel rhan o’r broses o gyflwyno EPS yn raddol, a fydd yn digwydd yn y modd mwyaf diogel a chyflym â phosibl ar ddechrau 2024.

Mae cyflwyno EPS ledled Cymru yn rhan allweddol o waith y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol a bydd yn gwneud y broses o ragnodi a dosbarthu meddyginiaethau yn fwy diogel, yn haws ac yn fwy effeithlon i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Mae’n galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau’n electronig i ddewis y claf o fferyllfa gymunedol, heb fod angen ffurflen bapur.

Bydd hefyd yn helpu’r amgylchedd, gan leihau’r 40 miliwn o ffurflenni presgripsiwn papur sy’n cael eu hargraffu bob blwyddyn yng Nghymru.

Lansiwyd EPS yn y safleoedd cyntaf ym mis Tachwedd gan ddefnyddio system GP EMIS Group ac y system fferyllfa Titan gan Invatech. Mae'r gwasanaeth yn cael ei brofi ar hyn o bryd gyda chleifion yn y Rhyl, Sir Ddinbych, yng Nghanolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington.

Dywedodd Jenny Pugh-Jones, Uwch Berchennog Cyfrifol y Rhaglen Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig Gofal Sylfaenol:

“Mae’n gyffrous iawn gweld ein bod eisoes yn symud i’r cyfnod profi gyda Boots fel ein hail gyflenwr system fferylliaeth i alluogi cyflwyno EPS ledled Cymru.

“Rydym yn falch iawn o weithio gyda Boots, sydd â phresenoldeb cryf mewn cymunedau ledled Cymru, ac edrychwn ymlaen at yr effaith y bydd y bartneriaeth hon yn ei chael ar gleifion, staff fferyllol a meddygon teulu.”

Dywedodd Jenny Rose, Cyfarwyddwr Storfeydd Cymru, Glannau Mersi a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn Boots:

“Bydd presgripsiynau electronig yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i gleifion gael gafael ar y meddyginiaethau sydd eu hangen arnynt a bydd yn gwneud bywyd yn haws i feddygfeydd a thimau fferylliaeth hefyd. Ar ôl bod yng Nghymru ers dros 125 o flynyddoedd, rydym yn gyffrous i gefnogi cyflwyno presgripsiynau electronig yn y cyfnod prawf pwysig hwn a gobeithiwn cyflwyno EPS yn ein holl siopau yng Nghymru yn y dyfodol agos.”

 

Mae'r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol yn dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad iechyd yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, ewch i www.dhcw.nhs.wales/dmtp.

 

Ffoto: Jenny Rose, Cyfarwyddwr Storfeydd Cymru, Glannau Mersi a Gorllewin Canolbarth Lloegr yn Boots

Y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol

Nod y Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol (DMTP) yw gwneud y gwaith o ragnodi, dosbarthu a gweinyddu meddyginiaethau yn haws, yn fwy diogel, yn fwy effeithlon ac effeithiol trwy ddulliau digidol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.

Mae'n dwyn ynghyd y rhaglenni a'r prosiectau a fydd yn cyflawni buddion dull rhagnodi cwbl ddigidol ym mhob lleoliad gofal yng Nghymru. Mae'r Portffolio yn cydlynu pedwar maes gwaith, ac mae gan bob un ohonynt gysylltiadau â'i gilydd: Gwasanaeth Rhagnodi Electronig (EPS) Gofal Sylfaenol, Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA), Mynediad i Gleifion (trwy ap GIG Cymru) a Chofnod Meddyginiaethau a Rennir. Ewch i www.dhcw.nhs.wales/dmtp i gael gwybod rhagor a chofrestru i dderbyn ein cylchlythyr misol.

Gwybodaeth am Boots

Boots yw prif fanwerthwr iechyd a harddwch y DU sydd â dros 52,000 o aelodau tîm a 2,100 o siopau, yn amrywio o fferyllfeydd cymunedol lleol i siopau iechyd a harddwch mawr.

Mae Boots yn gwasanaethu llesiant ei gwsmeriaid a chleifion trwy gydol eu hoes. Dyma'r prif ddarparwr gofal iechyd ar y stryd fawr a phrif gyrchfan harddwch y DU.

Mae gan Boots ddyfnder ac ehangder o gynnyrch heb ei ail, sy'n ymgorffori ei ystod eang ei hun a phortffolio arloesol o frandiau, gan gynnwys No7 sef brand gofal croen mwyaf blaengar y DU, Soap & Glory, Liz Earle Beauty a Sleek MakeUP. Ers dros 170 o flynyddoedd, mae Boots wedi gwrando, dysgu ac arloesi, ac mae'n parhau i herio'i hun i wella ei gynhyrchion a'i wasanaethau bob dydd.

Mae Boots yn rhan o Walgreens Boots Alliance, sy’n arweinydd byd-eang ym maes manwerthu iechyd a llesiant a arweinir gan fferyllfeydd. Mae rhagor o wybodaeth am gwmnïau ar gael ar boots-uk.com.

*Mae'r ffigurau'n gywir ar 31 Awst 2023.