Y Mis Balchder hwn rydym yn rhannu straeon gan rai o'n staff am eu profiadau fel rhan o'r gymuned LHDTC+. Dewch i gwrdd â Nathan Stone, Rheolwr Prosiectau Technegol yn DHCW a dysgu rhagor am ei daith i fod allan ac yn falch.
Cyhoeddwyd bod tîm y Rhaglen Llysgenhadon Newid, ynghyd â Jamie Parry, arweinydd y tîm, a thîm Cofnod Gofal Nyrsio Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Arweinwyr Technoleg Ddigidol y cylchgrawn Computing.
Bydd Lesley Jones yn arwain y newid mwyaf i’r broses rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau mewn ysbytai yng Nghymru ers degawdau.
Cynhelir digwyddiad dysgu allweddol i gefnogi cyflwyniad arfaethedig Rhagnodi a Gweinyddu Meddyginiaethau Gofal Eilaidd yn Electronig (ePMA) yn ysbytai GIG Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 25 Mai, 2023.
Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cymryd rhan mewn digwyddiad arddangos cenedlaethol 'cwrdd â'r cyflenwr' ar gyfer rhagnodi a gweinyddu meddyginiaethau’n ddigidol mewn ysbytai yng Nghymru ar 24 Mai 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Mae DHCW wedi llwyddo i ennill gwobr ‘Safon Aur’ mewn Gwiriad Statws Uwch yn y Safon Iechyd Corfforaethol.
Mae system ddigidol arloesol ar gyfer nodiadau cleifion ar fin symud i'w thrydydd cam wrth i nodiadau cleifion mewnol plant gael eu cynnwys yn y system.
Cyhoeddwyd bod Cofnod Gofal Nyrsio Cymru a’r tîm y tu ôl i gyfres o ddangosfyrddau data GIG Cymru wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Digidol HSJ eleni. Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth mewn digideiddio, cysylltu a thrawsnewid iechyd a gofal.
Roedd Rachael Powell a Rachel Gemine yn BioCymru, Llundain yn trafod trawsnewid digidol, cefnogi ymchwil ac arloesi trwy fynediad at ddata a phwysigrwydd partneriaethau effeithiol.
Mae’r Portffolio Trawsnewid Gweinyddu Meddyginiaethau’n Ddigidol a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yn lansio cronfa newydd heddiw i helpu cyflenwyr systemau fferylliaeth gymunedol digidol yng Nghymru i ddarparu gwasanaeth presgripsiwn electronig (EPS).
Daeth DHCW a'r gymuned iechyd digidol at ei gilydd am ddau ddiwrnod o ddysgu a rhwydweithio yn Digital Health Rewired yn gynharach y mis hwn.
Bydd System Imiwneiddio Cymru (WIS) a ddatblygwyd gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi rhaglen brechiadau atgyfnerthu y Gwanwyn yng Nghymru a fydd yn dechrau ar 1 Ebrill.
Mae system WIS wedi darparu 8.9 miliwn o frechiadau ers dechrau’r pandemig, ac wedi darparu 1.1 miliwn o frechiadau yn ystod rhaglen gaeaf 2022 rhwng mis Medi a mis Rhagfyr.
Bydd arolwg newydd yn casglu adborth gan glinigwyr sy’n gweithio i GIG Cymru ar effeithiolrwydd y systemau digidol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd.
Mae Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth ar ôl casglu mwy na 3.9 miliwn o gofnodion nyrsio cleifion mewnol yn ystod y 22 mis diwethaf.
Mae Ecosystem Iechyd Digidol Cymru a’r Adnodd Data Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad Data Mawr ar 29 Mawrth 2023 yn Stadiwm Principality, Caerdydd.
Mae dangosfwrdd newydd a ddatblygwyd ar y cyd gan dimau GIG Cymru yn caniatáu i glinigwyr a staff labordy weld gwybodaeth am gleifion yn ne, gorllewin a chanolbarth Cymru sy’n aros am drawsblaniad aren yn gyflymach ac yn haws.
Mae Mamolaeth Ddigidol Cymru yn falch o gyhoeddi cymeradwyaeth Gweinidogol a £7m o gyllid ar gyfer rhaglen waith pum mlynedd a fydd yn trawsnewid gwasanaethau mamolaeth yn ddigidol i fenywod a chlinigwyr yng Nghymru.
Cadwodd Iechyd a Gofal Digidol Cymru gysylltiadau agos â Microsoft yn ystod y cyfnod segur byd-eang ar 25 Ionawr, 2023 a effeithiodd ar Microsoft Teams, Office 365 a gwasanaethau ar-lein eraill Microsoft.
Mae gweithrediad hirddisgwyliedig WelshPAS DHCW yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre wedi mynd yn fyw.
Mae e-Lyfrgell GIG Cymru wedi ymestyn ei thanysgrifiad cenedlaethol i BMJ Best Practice i gynnwys y Rheolwr Cydafiacheddau ar gyfer holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol GIG Cymru.