Neidio i'r prif gynnwy

Gwella canlyniadau cleifion trwy waith digidol i fod yn ganolog i'r uwchgynhadledd

Ionawr 30ain 2024

Mae pŵer data, gwreiddio diwylliant digidol a thrawsnewid mynediad at ofal sylfaenol trwy waith digidol ymhlith y pynciau y bydd panelwyr o Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) yn eu trafod yn Uwchgynhadledd Trawsnewid Digidol HSJ.

Mae Ifan Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth Ddigidol a Sam Hall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Sylfaenol, Gofal Cymunedol ac Iechyd Meddwl yn cymryd rhan mewn tair trafodaeth banel ar draws y digwyddiad deuddydd.

Mae’n cael ei gynnal yn Park Regis yn Birmingham ar Chwefror 8 a 9, a thema eleni yw: “Cysylltu’r system, trawsnewid gwasanaethau a gwella canlyniadau cleifion drwy waith digidol.”

Bydd yr uwchgynhadledd yn dod ag aelodau bwrdd ac arweinwyr digidol o’r sector iechyd a gofal at ei gilydd. Bydd yn rhoi cyfle i rannu arfer gorau a mynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu gofal iechyd ar lefel leol a chenedlaethol.

Y tair trafodaeth banel y mae IGDC yn cymryd rhan ynddynt yw:

 

Grym Data - Sbarduno Newid trwy Ddeallusrwydd a Dadansoddeg System gyfan

Chwefror 8 am 4.50pm

Bydd Ifan Evans yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ar reolaeth effeithiol o lywodraethu a pherchnogaeth data ar draws y system. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio gwella cofnodion gofal a rennir a rheoli iechyd y boblogaeth trwy greu hwb data ar gyfer data byw a gwella gofal cleifion trwy rannu data.

 

Adeiladu ac Ymgorffori Diwylliant Digidol ar draws Sefydliadau a Systemau

Chwefror 9 am 9am

Bydd Ifan Evans yn rhannu profiadau o weithio ar integreiddio yng Nghymru dros y degawd diwethaf. Bydd y sesiwn yn trafod manteision integreiddio, y dirwedd newidiol gyda sefydliad y Systemau Gofal Integredig (ICS), a hyrwyddo gweithio integredig a llif gwybodaeth symlach rhwng sefydliadau. Bydd y sesiwn hefyd yn archwilio datblygu arweinwyr digidol a gwneud digidol yn rhan annatod o swyddi pobl.

 

Trawsnewid Mynediad i Ofal Sylfaenol drwy Wasanaethau a Hwylusir yn Ddigidol

Chwefror 9 am 11.30am

Bydd Sam Hall yn trafod defnyddio seilwaith presennol i wella cyfathrebu digidol rhwng gofal sylfaenol, gofal eilaidd a chleifion. Bydd y sesiwn yn edrych ar dechnolegau digidol trawsnewidiol fel cofnodion iechyd a rennir ac offer deallusrwydd artiffisial (AI). Bydd ffocws hefyd ar sut y gall nid yn unig technoleg, ond hefyd diwylliant ac arweinyddiaeth wella sut mae systemau'n rhyngweithio â'i gilydd.

 

I weld y rhaglen lawn ac i gofrestru eich lle, ewch i wefan Uwchgynhadledd Trawsnewid Digidol HSJ.