Neidio i'r prif gynnwy

Rydym eisiau eich barn ar strategaeth hirdymor DHCW 

Chwefror 6 2024

Dros y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn datblygu ein strategaeth hirdymor newydd, gan weithio gyda phartneriaid cyflawni allweddol a gyda thimau yn ein sefydliad ein hunain. Yn ddiweddar, cymeradwyodd ein Bwrdd fersiwn drafft ar gyfer ymgysylltu ehangach ac rydym bellach yn gwahodd sylwadau a safbwyntiau gan ein holl randdeiliaid a phartneriaid allweddol. Gweld y drafodaeth yn ein cyfarfod bwrdd cyhoeddus diweddar.  (57 munud i mewn).

Mae digidol a data yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae technolegau newydd yn trawsnewid pob diwydiant. Bydd Deallusrwydd Artiffisial yn newid y ffordd yr ydym yn gweithio, a'r ffordd y gwneir penderfyniadau a'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu. Mae digidol a data yn creu cyfleoedd i wella gwasanaethau a chanlyniadau iechyd a gofal, a’u gwneud yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Wrth gwrs, bydd heriau hefyd, felly mae'n bwysig inni gael hyn yn iawn. 

Mae cyfeiriad y polisi wedi’i nodi yn strategaeth Ddigidol a Data ddiweddar Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW) yw’r sefydliad darparu gwasanaethau digidol cenedlaethol, sy’n gweithio gyda sefydliadau iechyd a gofal eraill a phartneriaid darparu i ddarparu systemau digidol a data cenedlaethol sy’n hanfodol i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel yng Nghymru yn ddiogel. 

Mae ein cynllun cyflawni presennol wedi’i nodi yn ein Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) tair blynedd. Yn ein strategaeth rydym yn adeiladu ar ein CTCI i nodi ein hamcanion strategol ar gyfer 2030, a’r egwyddorion y byddwn yn eu defnyddio i’n helpu i wneud y dewisiadau cywir ar hyd y ffordd. Darllenwch ein strategaeth ddrafft yma.

Mae gweithio gydag eraill fel partner dibynadwy yn flaenoriaeth lwyr i ni - mae'n un o'n pum prif genhadaeth. Rydym eisiau gwybod beth yw eich barn am ein strategaeth. Bydd adborth gan bartneriaid a rhanddeiliaid yn ein galluogi i brofi a mireinio'r strategaeth cyn i ni gyflwyno'r fersiwn derfynol i'n Bwrdd ym mis Mawrth. 

Mae gennym arolwg ar-lein lle gall unrhyw un roi sylwadau ac adborth ar ein strategaeth. Cwblhewch yr arolwg a rhannwch eich barn.

Rydym yn frwd dros wneud digidol yn rym er lles mewn iechyd a gofal. Mae ein strategaeth yn bwysig i ni fel sefydliad, ac mae digidol yn bwysig i bawb sy’n malio am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol. Cymerwch amser os gallwch, i ddarllen ein strategaeth ac i anfon eich barn atom.