Neidio i'r prif gynnwy

Uwchraddiwyd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru yn un gronfa ddata genedlaethol

Ionawr 26ain 2024

Mae wyth cronfa ddata ar wahân ar gyfer Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) wedi'u disodli gan un gronfa ddata genedlaethol.

Aeth yr uwchraddio’n fyw ym mis Tachwedd 2023 ac mae’n disodli nifer o achosion ym mhob un o saith bwrdd iechyd Cymru ac Ymddiriedolaeth.

Felindre gydag un gronfa ddata genedlaethol. Bydd yn dod ag arbedion maint ac effeithlonrwydd ychwanegol, gyda thîm cymorth WNCR bellach yn gorfod rheoli un gronfa ddata. Yn flaenorol, pe nodid problem gan fwrdd iechyd, byddai'n rhaid gweithredu’r datrysiad wyth gwaith ar draws pob cronfa ddata. Nawr mae cronfa ddata genedlaethol sengl yn golygu mai dim ond unwaith y mae'n rhaid gweithredu'r datrysiad ar lefel Cymru gyfan.

Mae'r uwchraddio yn gosod y sylfaen ar gyfer gwella mynediad at wybodaeth yn ehangach ymhellach ar draws GIG Cymru. Roedd y prosiect yn cynnwys cydweithrediad gan gannoedd o gydweithwyr y GIG o bob cwr o Gymru.

 

Dywedodd Luke Ashton, Uwch Reolwr Cymorth Systemau yng Nghanolfan Ganser Felindre:

“Mae’r fersiwn ddiweddaraf o WNCR wedi paratoi’r ffordd ar gyfer uno’r holl systemau clinigol yng Nghymru. Fel y system gyntaf o blith systemau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) i weithredu fel un “gronfa genedlaethol”, bydd hyn yn galluogi timau sy’n cefnogi Cofnod Gofal Nyrsio Cymru i ganolbwyntio eu hymdrechion ar un fersiwn o’r system yn hytrach nag fesul Bwrdd Iechyd.”

 

Dywedodd Judith Bowen, Prif Nyrs Gwybodeg Glinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae un gronfa ddata yn rhoi cyfle yn y dyfodol ar gyfer gofal cleifion di-dor pan fydd cleifion yn trosglwyddo rhwng sefydliadau.”

 

Dywedodd Fran Beadle, Prif Swyddog Gwybodaeth Nyrsio yn IGDC:

“Mae’r WNCR wedi trawsnewid nyrsio yng Nghymru trwy safoni dogfennau a darparu datrysiad digidol ymarferol, i wella diogelwch a phrofiad cleifion. Cydweithio ac ymgysylltu fu gwir lwyddiant y prosiect hwn, a gwelwyd tystiolaeth o hyn unwaith eto wrth gefnogi argaeledd gwybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru.”

 

Ym mis Ebrill 2021, lansiwyd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru, a oedd yn disodli nodiadau nyrsio papur am wardiau cleifion mewnol i oedolion â system ddigidol, gan ddod â gwelliannau i effeithlonrwydd, diogelwch a phrofiad cleifion, Mae dros 83% o wardiau cymwys ledled Cymru bellach yn defnyddio’r WNCR ac mae dros 10.3 miliwn o nodiadau nyrsio cleifion mewnol wedi’u casglu hyd yma.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ehangu WNCR i gasglu asesiadau cleifion mewnol plant, yn dilyn £1.7m o gyllid gan Gronfa

Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol Llywodraeth Cymru.