Neidio i'r prif gynnwy

Dyfarnwyd Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol i DHCW ar ôl ymagwedd 'ragorol'

24 ain Ionawr 2024

Disgrifiwyd ymagwedd DHCW at gynhwysiant digidol yn “rhagorol” ar ôl ennill Achrediad Siarter Cynhwysiant Digidol.

Diben y Siarter Cynhwysiant Digidol yw cefnogi a hyrwyddo sefydliadau sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, y sector preifat neu’r trydydd sector yng Nghymru sy’n fodlon hybu sgiliau digidol sylfaenol a helpu pobl i fynd ar-lein.

Mae’r siarter yn rhan o raglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol Iechyd a Lles, a ddarperir gan Cwmpas.

Mae DHCW yn ymuno â 10 sefydliad arall i ennill achrediad.

Ar ôl llofnodi’r siarter yn yr Uwchgynhadledd Ddigidol gyntaf ym mis Medi 2022, mae DHCW bellach wedi mynd ymlaen i ennill achrediad ar ôl cyflwyno cynllun gweithredu yn llwyddiannus yn amlinellu gwaith y sefydliad a’i ymrwymiad parhaus tuag at chwe addewid allweddol y siarter.

Daw ar ôl i DHCW sefydlu gweithgor cynhwysiant digidol – a gadeiriwyd gan Helen Thomas, y Prif Swyddog Gweithredol – i oruchwylio gweithrediad y cynllun gweithredu cynhwysiant digidol, gan sicrhau atebolrwydd a pherchnogaeth gyfunol a chydnabod bod cynhwysiant digidol yn bryder i bawb.

Wrth ddyfarnu’r achrediad, nododd Cymunedau Digidol Cymru “weledigaeth flaengar” DHCW tuag at gynhwysiant digidol, a “dealltwriaeth wirioneddol” o’r angen am sgiliau digidol, hyder a mynediad i bawb.

Mae Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) DHCW yn rhoi ffocws cryf ar sut y gall gwaith digidol a data helpu i reoli'r pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal iechyd a gwella canlyniadau.

Dywedwyd bod ein hymrwymiad clir i gynhwysiant digidol yn y Cynllun Tymor Canolig Integredig (CTCI) yn enghraifft “ardderchog” o sut y gall cyrff iechyd ymgorffori cynhwysiant digidol yn effeithiol o fewn CTCI.

O fynediad Microsoft 365 a’r Fenter Sgiliau Menter i raglenni hyfforddi digidol mewnol ac allanol ar gyfer staff, tynnwyd sylw hefyd at “sylfaen gadarn” DHCW ar gyfer galluogi staff i ennill sgiliau digidol sylfaenol a’u datblygu ymhellach.

Disgrifiwyd y Rhwydwaith Iechyd a Lles sy’n darparu adnoddau digidol i staff fel “enghraifft ragorol” o gefnogi iechyd a lles staff trwy ddefnyddio offer digidol.

Canmolwyd mentrau gan gynnwys arolygon cynhwysiant digidol, hyrwyddwyr digidol ar gyfer allgymorth, datblygu Ap GIG Cymru gyda gweithgor pwrpasol a menter prosiectau cymunedol yn ymwneud â hyrwyddo mabwysiadu sgiliau digidol.
 

Dywedodd Helen Thomas, Prif Swyddog Gweithredol DHCW:

“Rwy’n hynod falch bod gwaith DHCW o ran cefnogi’r ymgyrch am genedl ddigidol gynhwysol wedi cael ei gydnabod gan Gymunedau Digidol Cymru.

“Mae cyflawni Achrediad y Siarter Cynhwysiant Digidol yn garreg filltir arwyddocaol yn ein hymrwymiad parhaus i sicrhau y gall pawb yng Nghymru gael mynediad at systemau digidol i’w grymuso i fyw bywydau iachach.

“Rydym yn chwilio’n gyson am ffyrdd o arloesi a gwella tra’n parhau i ddarparu gwasanaethau digidol, data a thechnoleg craidd yn gyson, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu ledled Cymru i sicrhau bod tegwch digidol yn realiti i bawb.”
 

Dywedodd Cadi Cliff, Rheolwr Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru:

“Mae DHCW yn arwain y ffordd yn eu hymrwymiad i brif ffrydio ac ymgorffori cynhwysiant digidol i sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn cael ei adael ar ôl.

“Wrth i’n cymdeithas ddod yn fwy digidol, mae cael DHCW fel hyrwyddwr cynhwysiant digidol yn hanfodol o ran sicrhau gwasanaethau iechyd a gofal digidol cynhwysol i bawb yng Nghymru.”