Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion wedi'u harchifo

 
21/05/20
Cyflwyno Microsoft Teams i GIG Cymru

Bellach mae Microsoft Teams wedi'i gyflwyno ar draws GIG Cymru gyda bron i 16,000 o ddefnyddwyr gweithredol eisoes.

18/05/20
Trawsnewid digidol mewn Gofal Sylfaenol

Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gwneud cynnydd cyflym wrth drawsnewid gwasanaethau digidol i gefnogi meddygon teulu a phractisiau meddyg teulu. 

14/05/20
Ffurflen newydd i gefnogi ymgynghoriadau cleifion allanol ar-lein

Lansiwyd ffurflen ddigidol newydd i alluogi GIG Cymru i gynnal lefelau adrodd ar ganlyniadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol, wrth weithio o bell.

30/04/20
Unedau Profi Cymunedol yn defnyddio ceisiadau e-brofi ar gyfer holl Weithwyr Allweddol Cymru

Mae Unedau Profi Cymunedol ledled Cymru bellach yn defnyddio ceisiadau prawf electronig ar gyfer pob gweithiwr allweddol yng Nghymru a gaiff ei atgyfeirio am brawf ac sy’n dangos symptomau feirws COVID-19.

24/04/20
Canlyniadau gwrthgyrff i'w casglu o brofion Pwynt Gofal

Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi’r gofyniad cynyddol i brofi am wrthgyrff COVID trwy hwyluso canlyniad gwrthgorff pwynt gofal

23/04/20
Hwb data COVID-19 ar gyfer GIG Cymru

Effaith data mewn pandemig

15/04/20
Llythyrau Gwarchod wedi'u camgyfeirio – rydym yn ymddiheuro

Ar 24 Mawrth dosbarthwyd llythyrau gwarchod generig i 86,000 o gleifion Cymru sy’n cael eu cyfri’n fregus. O ganlyniad i wall prosesu, anfonwyd nifer o’r llythyron hynny at gyfeiriad blaenorol. Nid oedd y llythyrau yn cynnwys unrhyw wybodaeth feddygol bersonol.

14/04/20
Gwasanaethau fideo ac ar-lein newydd i gleifion allanol

Mae COVID-19 yn prysur newid y ffordd mae ein hysbytai a'n practisiau meddygon teulu yn darparu gofal, gyda chyfyngiadau ar gyswllt cymdeithasol a'r galw am gapasiti ychwanegol.

08/04/20
TG yn galluogi meddygon i weithio o bell

Gall meddygon teulu gael mynediad o bell i'w cyfrifiadur yn y practis meddyg teulu o gyfrifiadur neu ddyfais yn eu cartrefi, diolch i ddatrysiad a weithredwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

25/03/20
Ymgynghori digidol yn 'llai o straen'

Cysylltodd Rebecca â ni yr wythnos hon, ac roedd eisiau dweud wrthym sut aeth apwyntiad claf allanol pwysig rhagddo, diolch i wasanaethau iechyd a gofal digidol.

19/03/20
Cymorth Covid-19 e-Lyfrgell GIG Cymru ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd a Gofal

Mae llawer o’r adnoddau ar e-Lyfrgell GIG Cymru wedi’u diweddaru i ddarparu gwybodaeth ddigidol ddefnyddiol ynglŷn â’r coronafeirws, Covid-19.

18/03/20
Ymgynghoriadau Fideo Meddygon Teulu

Bydd meddygon teulu yng Nghymru yn derbyn datrysiad Ymgynghoriad Fideo yn ystod mis Ebrill. Bydd y gwasanaeth Attend Anywhere yn cynorthwyo meddygon teulu yn ystod pandemig Covid-19.

12/03/20
Nodyn diabetes yn lansio yn Ysbyty Llwynhelyg

Lansiwyd y Nodyn Ymgynghoriad Diabetes yn Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd. Mae'r nodyn yn galluogi ymgynghorwyr diabetes, nyrsys arbenigol a dietegwyr i gofnodi a gweld gwybodaeth am gleifion ym Mhorth Clinigol Cymru (WCP).

09/03/20
Data deintyddol i lywio a gwella gwasanaeth

Mae data allweddol sy’n cael ei gasglu gan system ddeintyddol newydd yn sicrhau bod cleifion Cymru yn derbyn y gofal cywir yn y man cywir.

27/02/20
Mwy na miliwn o gofnodion cleifion digidol wedi'u rhannu rhwng byrddau iechyd yng Nghymru

Erbyn hyn, Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws holl ffiniau sefydliadol y byrddau iechyd i gael mynediad at wybodaeth ddigidol cleifion, sy'n caniatáu i wybodaeth ddilyn y claf ble bynnag yng Nghymru y darperir gofal.

25/02/20
Lansio dogfennau nyrsio newydd

Lansiwyd Cofnod Gofal Nyrsio Cymru mewn sawl bwrdd iechyd ledled Cymru. Mae'r prosiect yn trawsnewid dogfennaeth nyrsio trwy safoni ffurflenni, a'u troi'n ddigidol.

18/02/20
System ddigidol yn cefnogi sgrinio canser y coluddyn

Mae meddalwedd a ddatblygwyd ac a gefnogir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn cefnogi rhaglen sgrinio’r coluddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd wedi lansio ymgyrch newydd gyda Bowel Cancer UK i annog rhagor o bobl gymwys i gael y prawf.

13/02/20
Meddygon Teulu yn croesawu canlyniadau profion digidol

Mae ceisiadau am brawf yn electronig ar gynnydd mewn practisiau meddygon teulu, gyda mwy o bractisiau’n defnyddio’r system dros y flwyddyn ddiwethaf.

12/02/20
Hwb ddigidol i fferylliaeth ysbytai

Mae ysbytai yng Nghymru ar fin cael system fferylliaeth uwch-dechnoleg newydd, fel rhan o gam cyntaf cynllun mawr i foderneiddio fferylliaeth a phresgripsiynu.

10/02/20
GIG Cymru ar flaen y gad o ran gofal sy'n seiliedig ar ddata

Mae dangosfyrddau data sy’n canolbwyntio ar gyflwr yn cael eu datblygu gan GIG Cymru i daflu goleuni ar ganlyniadau cleifion, ac i nodi amrywiadau mewn gofal.