Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion wedi'u harchifo

 
27/09/19
Meddygon Teulu yn cael mynediad i Borthol Clinigol Cymru

Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael mynediad i'r cofnod cleifion digidol cenedlaethol, Porthol Clinigol Cymru, a fydd yn gwella taith cleifion rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd. Hyd heddiw, nid yw'r system ond wedi bod ar gael i glinigwyr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gofal ysbyty'r claf. 

26/09/19
Cymru yn arwain y ffordd gydag atgyfeiriadau deintyddol electronig

Cymru bellach yw’r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno atgyfeiriadau deintyddol electronig ar draws yr holl arbenigeddau deintyddol.

24/09/19
Arweinwyr Digidol Cymru: Rhaid i ddata ein gyrru ymlaen

Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau sy'n storio llawer o ddata hefyd yn "brin o wybodaeth", sy'n golygu nad ydyn nhw'n cael gwerth digonol o'u data. 

17/09/19
Mae myfyrwyr yn canmol graddau digidol

Mae myfyrwyr sydd ar fin cychwyn ar ail flwyddyn eu graddau sy'n cael eu rhedeg gan Sefydliad Gwybodaeth Ddigidol Cymru wedi siarad am ba mor ddefnyddiol mae’r cwrs wedi bod iddynt.

04/09/19
Diwrnodau Agored Recriwtio – 11 a 18 Medi

Ydych chi'n angerddol am ddata a gwybodaeth?  Ydych chi am gael effaith ar ddyfodol GIG Cymru?

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr o bob oed a gallu ar gyfer nifer o swyddi ym meysydd Peirianneg Data, Datblygu Meddalwedd, Gwyddor Data yn ogystal â Rheoli Prosiectau a Newid.

19/08/19
Cofnodion gofal canser ar gael i'w gweld ym Mhorth Clinigol Cymru

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru gyrchu gwybodaeth am gleifion canser trwy Borth Clinigol Cymru (WCP).

30/07/19
Mae'r dyfodol yn ddigidol i Borth Clinigol Cymru

Mae meddygon mewn dau fwrdd iechyd yn peilota fersiwn newydd, symudol o Borth Clinigol Cymru.

29/07/19
Dathlu partneriaeth gweithlu digidol

Mae gwaith Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i ddatblygu gweithlu digidol mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael ei ddathlu gan Ganolfan Genedlaethol y DU ar gyfer Prifysgolion a Busnes.

16/07/19
Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru'n ennill gwobr arloesi

Enillodd tîm gwasanaeth ‘Dewis Fferyllfa’ Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru y categori arloesi a thechnoleg yng Ngwobrau’r Gwarcheidwaid Gwrthfiotig. Cynhaliwyd y seremoni ym mis Mehefin 2019 i ddathlu gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled y DU a thramor o ran mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

08/07/19
Rhyngwyneb newydd yn cysylltu â degawdau o ddata

Bellach, gall clinigwyr yng Nghymru gysylltu â degawdau o hanes triniaeth cardiofasgwlaidd eu cleifion trwy Borth Clinigol Cymru (WCP).  

06/07/19
Bae Abertawe yn peilota meddalwedd derbyn newydd Porth Clinigol Cymru

Mae Ysbyty Treforys yn Abertawe yn defnyddio ymarferoldeb newydd ym Mhorth Clinigol Cymru i gynnal rhestrau cywir o gleifion preswyl - gan olrhain achosion o dderbyn, trosglwyddo a rhyddhau cleifion mewn amser gwirioneddol.

05/07/19
System Profion Pwynt Gofal (WPOCT) yn cyrraedd Powys a Felindre

Mae system Profion Pwynt Gofal Cymru (WPOCT) wedi cael ei rhoi ar waith ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, fis ar ôl ei rhoi ar waith yn llwyddiannus yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

30/06/19
Tair seren ar gyfer Desg Gwasanaeth NWIS

Mae Desg Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn falch o gyhoeddi y dyfarnwyd Ardystiad Desg Gwasanaeth "tair seren" i ni gan y Service Desk Institute - sefydliad rhyngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol desg gymorth a'r rheiny sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaeth a chymorth TG. 

26/06/19
GIG Cymru'n llofnodi cytundeb gyda Microsoft sy'n torri tir newydd

Mae GIG Cymru wedi llofnodi cytundeb menter newydd gyda Microsoft a fydd yn cryfhau ei amddiffyniadau yn erbyn ymosodiadau seiber, ac yn rhoi mynediad i Office 365 i dros 100,000 o staff GIG Cymru.

18/06/19
Gwneud Gwybodaeth am Ofal Critigol yn Ddigidol

Mae cynlluniau ar droed i ddisodli papur gyda system ddigidol yn unedau gofal critigol Cymru.

23/05/19
Siartio'r Atlas Cardiofasgwlaidd: Sesiwn holi ac ateb gyda Sally Cox

Mae Sally Cox yn casglu data - data y gellir ei ddefnyddio i wella bywydau a chryfhau gofal cleifion.

20/05/19
WHCIP yn barod i lansio

Mae ein tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn datblygu porth a fydd yn bwynt mynediad unigol ar gyfer ein data a'n cynhyrchion deallusrwydd iechyd a gofal.

17/05/19
Amlygu Gwasanaethau Masnachol

Er eu bod nhw wedi cael eu henwebu, ni wnaeth ein Tîm Gwasanaethau Masnachol ennill gwobr ddymunol iawn yng Ngwobrau Caffael Go eleni ym Mirmingham y mis diwethaf - a oedd yn cydnabod y prosiectau caffael cyhoeddus gorau yn y DU.

15/05/19
Un system ddelweddu a pheledr-x ddigidol genedlaethol

Mae pob bwrdd iechyd ac ysbytai yng Nghymru bellach yn defnyddio un system gyffredin ar gyfer delweddau, sganiau a delweddau pelydr-x digidol.

13/05/19
Cynllun peilot dolur gwddf mewn fferyllfeydd yn hybu defnydd priodol o wrthfiotigau

Mae cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth swabio dolur gwddf yn y fan a’r lle yn hybu defnydd mwy effeithlon o wrthfiotigau ymysg cleifion mewn rhannau o Gymru, yn ôl y canlyniadau dechreuol.