Neidio i'r prif gynnwy

WHCIP yn barod i lansio

Mae ein tîm Gwasanaethau Gwybodaeth yn datblygu porth a fydd yn bwynt mynediad unigol ar gyfer ein data a'n cynhyrchion deallusrwydd iechyd a gofal. 

Y Porth Deallusrwydd Iechyd a Gofal Cymru (WHCIP) newydd fydd y man canolog i gyrchu offer data, fel y Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol, Porth Gwybodaeth Llywodraeth Cymru, Marchnad Data Iechyd Cymru, a Mapiau Iechyd Cymru. Bydd hefyd yn caniatáu mynediad at gynhyrchion a gwasanaethau sydd wrthi'n cael eu datblygu.

Ar ôl ei weithredu, bydd y porth yn cael ei ddiweddaru a'i wella'n rheolaidd trwy ryddhau ymarferoldeb newydd, ar sail gofynion defnyddwyr. Bydd y porth hefyd yn cynnal gwasanaeth dethol data ac yn gosod prosesau clir ar gyfer ceisiadau gwasanaethau gwybodaeth newydd. Hefyd, mae gan WHCIP y potensial i ddarparu mynediad at ddata o'r Adnodd Data Cenedlaethol, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu, a fydd yn dod â data cleifion at ei gilydd trwy ddefnyddio iaith gyffredin a safonau technegol.

Dylai'r WHCIP fod ar gael ym myrddau iechyd ac ymddiriedolaethau Cymru yn yr haf.